Heddiw, galwodd gwleidyddion Plaid Cymru Dwyrain De Cymru am weithredu brys i fynd i'r afael â'r gor-ganoli yn Ysbyty’r Faenor sy'n arwain staff a chleifion i ben eu tennyn.
Mae'r ysbyty yng Nghwmbrân wedi bod ar agor ers dim ond 18 mis, ond mae eisoes yn llawn capasiti ac mae angen ei ehangu, yn ôl ei gyfarwyddwr meddygol Dr James Calvert.
Daw'r ymyriad yn dilyn y newyddion fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi'r rhybudd uchaf posib - sy'n cael ei alw'n 'rybudd du' - oherwydd pwysau "digynsail" ar wasanaethau yr ysbyty.
Mae cleifion yn cael eu rhybuddio i osgoi'r ysbyty oni bai bod eu cyflwr yn peryglu bywyd neu os oes ganddynt anaf difrifol. Ar hyn o bryd, mae cleifion sydd heb fygwth bywyd yn aros mwy na 14 awr i weld meddyg, yn ôl adroddiadau.
Roedd disgwyl hir am Ysbyty’r Faenor, a addawyd am flynyddoedd lawer. Galwodd Plaid Cymru am ystyried staffio yn ôl yn 2015, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Mae'n amlwg bellach bod diffyg cynllunio ar ba effaith y byddai canoli gwasanaethau yn ei olygu o ran capasiti.
Heddiw, bydd ASau Dwyrain De Cymru Plaid Cymru yn codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru mewn ymateb i gwestiwn brys.
Bydd Peredur Owen Griffiths AS yn gofyn i'r Llywodraeth Lafur unioni'r argyfwng sy'n dod i'r amlwg "er mwyn cleifion a staff fel ei gilydd."
"Yn ystod fy nghymorthfeydd stryd niferus ledled y rhanbarth, cwyn gyffredin yw'r gwasanaeth y mae cleifion wedi'i brofi yn Ysbyty’r Faenor. Mae hyn wedi bod yn wir ar draws y rhanbarth.
"Mae'n ymddangos bod pobl yn cael anawsterau o ran hygyrchedd y safle, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol a'r amseroedd aros hir i'w gweld pan fyddant yn cyrraedd yno yn y pen draw. Mae pethau'n amlwg wedi dod i ben yn ystod y dyddiau diwethaf."
"Mae cael cyfleuster newydd sbon yn iawn, ond nid yw hanes byr Ysbyty’r Faenor yn dangos nad yw ysbyty newydd yn ddim heb ei staff.
"Cryfder mwyaf y GIG yw ei bobl ac rydym mewn perygl o'u gorfodi allan o'r sector hwn oni bai ein bod yn gwella eu hamodau gwaith.
"Rydym hefyd yn peryglu iechyd cleifion pryd bynnag y cyrhaeddir pwyntiau argyfwng fel hyn.
"Pa wersi sydd wedi'u dysgu o agor y Faenor a pha gynlluniau sydd ar waith i roi'r ysbyty ar sylfaen iachach? Rhaid unioni'r sefyllfa hon yn fuan er lles cleifion a staff fel ei gilydd."
Bydd Delyth Jewell AS yn dweud: "Ers i Ysbyty’r Faenor agor, mae problemau gorlenwi ac arosiadau hir wedi bodoli. Nid yw hyn yn deg i gleifion na staff – ac mae'r ffaith bod arosiadau 14 awr yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys neithiwr yn arwydd, mae arna i ofn, o broblem sylweddol. Fis Hydref diwethaf, cafwyd adroddiadau bod meddygon ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant yn ofni mynd i'r gwaith, fel yr adroddwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr.
"Mae pobl yn Nhorfaen wedi aros yn hir am yr ysbyty hwn, ond yr hyn sydd ganddynt yw gwasanaeth canolog ar gyfer y rhanbarth cyfan, sydd ddim yn ystyried yr angen lleol na chwaith anghenion y rhanbarth cyfan.
"Pan gaeodd ysbytai eraill fel Ysbyty’r Glowyr yng Nghaerffili, addawyd i gleifion na fyddent yn gweld unrhyw darfu ar wasanaethau gofal, ond mae gor-ganoli gwasanaethau yn arwain at hynny. Felly mae gennym staff ar ben eu tennyn, a chleifion sydd yn mynd heb y gofal maen nhw eu hangen."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb