Lansio ymgyrch Plaid Cymru i gefnogi'r economi
Mae pandemnig Covid-19 wedi cael effaith enbyd ar iechyd pobl, ond hefyd ar yr economi lleol. Diwydiant bwyd a diod Cymru yw un o’r sectorau sydd wedi dioddef waethaf.
Mae cau bwytai a siopau coffi a cholli marchnadoedd allforio yn golygu bod llawer o ffermwyr Cymru wedi colli eu marchnadoedd dros nos. Rydym oll wedi gweld lluniau o laeth yn cael ei dywallt i lawr y draen, ac y mae prisiau cig eidion cael eu taro’n ddrwg, gan adael ffermydd ar eu colled ac yn cael trafferth i oroesi.
I ddangos ein cefnogaeth, mae Plaid Cymru yn lansio’r ymgyrch #DwinPrynunLleol.
Rydym yn annog pawb i wneud mymryn mwy o ymdrech i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru lle bo modd. Rydym hefyd eisiau dathlu’r cynnyrch o’r safon uchaf sydd gan Gymru i’w gynnig.
Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff gynnyrch lleol a pha rai o’ch siopau lleol sy’n gwneud yr ymdrech ychwanegol honno i hyrwyddo bwyd a diod Cymru. Oes rhai wedi ymaddasu gyda gwasanaeth bwyd-allan neu wasanaeth cludo yn ystod y cloi?
Rhannwch hyn trwy dagio eich hoff siopau neu gynhyrchion mewn sylwadau am ein postiadau ar Facebook , Twitter ac Instagram. Medrwch hefyd lawrlwytho'r ddelwedd hon i hyrwyddo ein hymgyrch ar eich storïau Instagram a Facebook.
Da chi, ymunwch â’n hymgyrch #DwinPrynunLleol. Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru angen ein cefnogaeth yn awr yn fwy nag erioed.