Peredur Owen Griffiths, AS lleol, yn Annog Sgyrsiau Diwedd oes gydag Anwyliaid ac yn Galw ar y Gymuned i Blannu Bylbiau'r Gwanwyn ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio

Marie_Curie_pic.jpg 

Gofynnwyd i AS Dwyrain De Cymru, Peredur Owen Griffiths beth fyddai bwysicaf iddo ar ddiwedd ei oes, wrth iddo gwrdd â staff Marie Curie yn y Senedd, a siaradodd am bwysigrwydd gofal lliniarol a gofal diwedd oes da, a mynediad at hyn i bawb.

Ymunodd Peredur â thîm Polisi Marie Curie Cymru, Lowri Griffiths a Bethan Edwards mewn stondin yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 3 Tachwedd, i dynnu sylw at waith yr elusen diwedd oes. 

Mae Marie Curie Cymru yn darparu gofal a chymorth i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'u hanwyliaid yn eu hosbis a chartrefi pobl.  Mae'r elusen hefyd yn cynnig llinell Gwybodaeth a Chymorth am ddim, sy'n cynnwys cymorth profedigaeth.  Dyma'r ariannwr elusennol mwyaf o ymchwil gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y DU sydd hefyd yn ymgyrchu dros well gofal diwedd oes i bawb.

Yn ogystal â rhoi benthyg ei gefnogaeth, mae Peredur hefyd yn annog pobl ar draws Dwyrain De Cymru i ddechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Myfyrio 2022 drwy blannu bylbiau a hadau'r gwanwyn yr hydref hwn.  Bydd y blodau'n blodeuo mewn pryd ar gyfer y diwrnod ar 23 Mawrth 2022 mewn arwydd o obaith ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Mae'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio yn ddiwrnod i gefnogi'r miliynau o bobl sydd wedi cael profedigaeth yn ystod y pandemig, ac i fyfyrio ar fywydau teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sydd wedi marw o Covid neu achosion eraill. Mae'r diwrnod yn amser i oedi, myfyrio a chefnogi ei gilydd boed hynny o bob cred neu ddim.

Dywedodd Peredur: "Mae siarad am ein dymuniadau gofal diwedd oes gyda'n hanwyliaid mor bwysig i sicrhau eu bod yn gwybod sut i'n cefnogi orau ar ein hamser mwyaf bregus, a byddwn yn annog pawb i gael y sgwrs honno cyn gynted ag y gallant. 

"Yr wyf hefyd yn gobeithio y bydd pobl ar draws Dwyrain De Cymru, waeth beth fo maint eu gofod tu allan, a hyd yn oed y tu mewn, yn plannu Bwlb Gwanwyn ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Myfyrio ac yn cefnogi Marie Curie.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd, gyda llawer wedi'u distrywio gan farwolaeth anwyliaid, bydd plannu'r bylbiau hyn a gweld y twf cyntaf yn torri trwyddo yn gallu adfer ein gobaith am amseroedd gwell i ddod."

Ychwanegodd Lowri Griffiths, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru, ar ran Marie Curie: "Mae cael cefnogaeth Peredur yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Marie Curie. Gyda'i help, gallwn godi ymwybyddiaeth am yr hyn rydym yn ei wneud a chyrraedd mwy o bobl sydd ein hangen ac annog mwy o sgyrsiau ynghylch gofal diwedd oes, sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed. 

"I lawer, mae'r trawma dwfn o golli anwyliaid yn ystod Covid yn dal i fod yn real iawn. Bydd y Diwrnod Cenedlaethol Myfyrio ar 23 Mawrth 2022 yn gyfle i ddod at ei gilydd i gefnogi'r miliynau o bobl sydd mewn profedigaeth yn ystod y pandemig a chofio'r bobl rydym wedi'u colli."

I gael rhagor o wybodaeth ac i addo cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Myfyrio 2022 ewch i www.mariecurie.org.uk/dayofreflection


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-11-08 13:17:37 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd