Rhaid canolbwyntio ar weithredu’r cynllun i brofi, olrhain ac ynysu
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud y dylai strategaeth Llywodraeth Cymru o godi’r clo adlewyrchu model Seland Newydd gyda chanolbwynt ar brofi, olrhain ac ynysu.
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth heddiw (dydd Gwener, 15fed o Fai)
Meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS,
“Dylai strategaeth ymadael Llywodraeth Cymru adlewyrchu’r model a fabwysiadwyd mor llwyddiannus gan Seland Newydd. Mae hynny'n golygu bod pob ymdrech yn canolbwyntio ar yrru'r rhif R i lawr i leihau nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi i sero.
“Yna, pan fydd nifer yr achosion newydd wedi’u hatal yn llwyddiannus yn genedlaethol, dylai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried dull mwy lleol, gyda’r gallu i ail-osod mesurau cloi yn gyflym mewn ymateb i ymddangosiad clystyrau newydd.
“Fodd bynnag, yr allwedd i godi’r cyfyngiadau yn ddiogel yw gweithredu rhaglen brofi ac olrhain gynhwysfawr a lleol. Ni allwn hyd yn oed ddechrau lleddfu cyfyngiadau yng Nghymru yn sylweddol heb fod â seilwaith profi, olrhain ac ynysu y gallwn ymddiried ynddo mewn lle. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw newid gêr ar frys ar gyfer profi ac olrhain er mwyn caniatáu inni symud yn ddiogel i'r cam nesaf ar hyd y llwybr at adferiad.