Peredur yn beirniadu Aelodau Senedd Llafur am bleidleisio yn erbyn codiad cyflog nyrsys

Ty_Hafan_1.jpg

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i wneud tro pedol ar ôl iddyn nhw bleidleisio i beidio cynnig tâl gwell i nyrsys.

Roedd yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru yn siarad ar ôl cymryd rhan mewn dadl gan Blaid Cymru yn galw am well tâl i nyrsys sydd ar hyn o bryd wedi pleidleisio i streicio ym mhob ardal bwrdd iechyd ond un yn y wlad.

Yn ystod y ddadl, canolbwyntiodd Peredur ar yr effaith y mae lefelau nyrsio anniogel wedi'i chael ar nyrsio yn y ddwy hosbis blant yng Nghymru; Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.

Yn ystod y ddadl, dywedodd: "Mae'r cysylltiad rhwng gofal gwych a nyrsys profiadol wedi’i dderbyn fel ffaith, ac eto mae'r prinder presennol o staff nyrsio yng Nghymru yn effeithio'n ddifrifol ar allu'r hosbisau i ddarparu'r lefel o ofal a chefnogaeth yr hoffen nhw ei ddarparu i gymaint o deuluoedd. 

"Os yw'r cyfraddau gostyngol presennol yn parhau, mae'n bosib tybio na fydd yr hosbisau'n gallu gweithredu.

"Yn unol â'u nod datganedig o fod yn wlad dosturiol, dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector hosbisau, yn benodol y nyrsys sy'n creu eu hasgwn cefn, ac mae'n rhaid i'r gefnogaeth hon ddechrau gyda chodiad cyflog uwch na chwyddiant."

Ar ôl y ddadl, dywedodd Peredur: "Efallai fod Llafur yn pleidleisio yn erbyn gwell tâl i nyrsys yn synnu rhai pobl ond mae'n arwydd o'r ffordd y maent wedi trin y proffesiwn yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.

"Ychydig o ymgysylltu sydd wedi bod gan y llywodraeth gyda'r undebau nyrsio dros yr angen brys am becyn tâl.

"Mae hyn wedi arwain at sefyllfa sy'n dirywio lle mae mwyafrif llethol o nyrsys wedi cael digon ac wedi nodi eu bwriad i fynd ar streic."

Ychwanegodd Peredur: "Mae Plaid Cymru yn llwyr y tu ôl i'r nyrsys a'u galwadau am godiad cyflog teilwng.

"Dyw'r Llywodraeth Lafur ddim wedi trin nyrsys gyda'r parch a'r urddas maen nhw'n ei haeddu. Mae amser o hyd iddyn nhw wneud tro pedol ar hyn, a stopio'r ecsodus o nyrsys gweithgar ac ymroddedig trwy roi codiad cyflog iddynt."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-11-24 11:44:24 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd