Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig – Peredur Owen Griffiths, AS

IMG_4881.jpg

Weithiau, mae'n hawdd cael eich blino gan y llu o ddyddiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cael eu taflu fewn drwy gydol y calendr yn nodi un peth neu'r llall. O bryd i'w gilydd, yr wyf yn dod ar draws diwrnod sy'n cyd-fynd yn wirioneddol â'r materion sy'n bwysig i'r cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli ar draws Dwyrain De Cymru sydd hefyd yn cyd-fynd â'm cyfrifoldebau portffolio dros Blaid Cymru.

Heddiw yw un diwrnod o'r fath sef Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Mae Pobl Hŷn yn rhan bwysig o'm portffolio fel llefarydd Plaid Cymru ac yr oeddwn yn falch o godi mater gofal deintyddol i bobl mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer fy nadl fer gyntaf yn y Senedd cyn toriad yr haf. Eleni, mae thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn - "Ecwiti Digidol i Bawb" - yn un amserol. Mae llawer o wasanaethau a oedd unwaith yn rhan o bob tref a chanol pentref, bellach wedi mynd ar-lein. Roedd y broses hon eisoes yn mynd rhagddi ymhell cyn i'r pandemig coronafeirws daro, ond mae pethau wedi cyflymu yn ystod y 18 mis diwethaf. Erbyn hyn, disgwylir i bobl hŷn sy'n byw y tu allan i ddinasoedd neu drefi mawr ddysgu sut i fancio ar-lein oherwydd fod canghennau gwledig a llawer o ganghennau canol trefi wedi diflannu – llawer ohonynt wedi'u hachub gydag arian cyhoeddus y DU – ac wedi ceisio cynyddu'r elw ar draul gwasanaeth cwsmeriaid. Er bod rhai pobl hŷn wedi addasu a dysgu sut i ddefnyddio technoleg, nid yw llawer ohonynt wedi mynd i'r afael ag ef ac ni fyddant byth.

Wrth i wasanaethau fynd ar-lein, bu cynnydd cyfatebol mewn seiber-droseddu sydd wedi tyfu'n fwyfwy soffistigedig. Dyma un o'r prif droseddau y mae heddluoedd Cymru yn delio â hwy bob dydd. Yn ystod sesiwn friffio ddiweddar gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, datgelwyd bod llawer o recriwtiaid newydd yn cael eu hyfforddi i ddelio â seiber-droseddu wrth i'r heddlu addasu i'r nifer cynyddol o sgamiau ar-lein sy'n targedu, bron yn ddieithriad, pobl hŷn. Mae hyn i'w groesawu gan y byddai gwella cyfraddau canfod ac erlyn ar gyfer y troseddau rhain, gan eu bod yn arbennig o anodd ei datrys oherwydd natur ryngwladol llawer o'r artistiaid sgam, yn anfon neges glir i gyflawnwyr nad oes lle iddynt guddio.

Mae coronafeirws hefyd wedi cael effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwasanaethau amserleni bws wedi eu diddymu ar gyfer llawer o'r cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli ers y cyfnod clo cyntaf. Daethpwyd hyn i’r amlwg yn ystod cymhorthfa stryd ym marchnad Glynebwy yr wythnos diwethaf. Yn ystod y sgyrsiau niferus a gefais gyda siopwyr canol trefi, y gŵyn fwyaf oedd y diffyg cysylltedd bws, yn enwedig i'r cymunedau mwy ynysig ar gyrion Blaenau Gwent. Siaradodd pensiynwyr â mi a'm tîm am eu tristwch wrth golli gwasanaethau bws uniongyrchol o Lynebwy i Gwmbrân a Chasnewydd. Dywedon nhw hefyd nad yw'r gwasanaeth bws fflecsi - sydd wedi cymryd lle sawl parth lleol ym Mlaenau Gwent - yn gweithio iddyn nhw. Cafodd hyn ei glodfori fel ffordd arloesol o chwyldroi trafnidiaeth gyhoeddus, ond ni all llawer o bobl hŷn ddefnyddio'r ap ac yn dweud nad yw archebu'r gwasanaeth bws dros y ffôn yn syml, gan adael llawer yn teimlo'n unig ac ynysig yn eu cartrefi a'u cymunedau.

Gwn fod y materion hyn eisoes ar radar rhai llunwyr polisi allweddol a dylanwadwyr polisi yng Nghymru. Cefais gyfarfod cynhyrchiol gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn gynharach yn yr haf lle buom yn trafod eu gwaith i amlygu a goresgyn rhwystrau i bobl hŷn. Mae'n wych gwybod bod gennym, yma yng Nghymru, hyrwyddwr ar gyfer rhan sylweddol o gymdeithas sy'n aml yn cael eu hanwybyddu gan lunwyr polisi ledled y byd. Mae adroddiad Cyflwr y Genedl y Comisiynydd – a ryddhawyd yn heddiw - yn dadansoddi effaith coronafeirws ar bobl hŷn. Mae’n gwneud llawer o bwyntiau diddorol, a gobeithiaf ei fod yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn gweithredu arno'n gyflym i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru.

Yr wyf yn cydnabod nad yw gwella gwasanaethau i'w gwneud yn fwy hygyrch a chyfeillgar i bobl hŷn yn syrthio ar ein llywodraeth yn unig, fodd bynnag. Bydd yn cynnwys pob agwedd ar gymdeithas yn dod at ei gilydd i wneud yr 21ain ganrif yn lle cyfeillgar i bobl hŷn. Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig yn galw am ymdrech gydweithredol rhwng meysydd cyhoeddus a phreifat i fynd i'r afael â'r ffordd y mae technoleg wedi gadael pobl hŷn ar ôl. O fewn manylion y thema eleni mae sawl amcan a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'n galw am ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd cynhwysiant digidol, i archwilio rôl polisïau a fframweithiau cyfreithiol i sicrhau preifatrwydd a diogelwch pobl hŷn yn y byd digidol ac i fynd i'r afael â rhwystrau i argaeledd, cysylltedd, dyluniad a fforddiadwyedd.

Mae hyn yn ymwneud â chael ymdrech ar y cyd i wneud gwasanaethau hanfodol fel bancio, prynu nwyddau a gwasanaethau ar-lein a thrafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl hŷn. O ystyried fod poblogaeth Cymru yn heneiddio, mae hwn yn fater fydd ond yn tyfu'n fwy wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Nid oes amser i wastraffu.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd