Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi cefnogi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari.
Roedd AS Dwyrain De Cymru yn gwisgo'r lliw yn ystod digwyddiad fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari ym mis Mawrth eleni.
‘Teal’ yw lliw ymwybyddiaeth o ganser yr ofari, sy'n parhau i fod yn frawychus o isel yng Nghymru. Mae data o Target Ofari Cancer yn dangos mai dim ond 27 y cant o fenywod yng Nghymru fyddai'n gallu enwi bol wedi chwyddo fel symptom o ganser yr ofari
Symptomau canser yr ofari yw bol wedi'i chwyddo yn barhaus, gan deimlo‘n llawn, a phoen bol a'r angen i fynd i’r ty bach yn amlach neu ar fyrder.
Dywedodd Peredur: "Roedd yn wych bod yn rhan o ymgyrch a fydd, gobeithio, yn helpu i achub bywydau menywod. Mae dros 4,000 o fenywod yn y DU yn marw o ganser yr ofari bob blwyddyn. Yn anffodus, mae ymwybyddiaeth o'r symptomau allweddol yn parhau i fod yn bryderus o isel.
"Mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd a gweithredu nawr i sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw’r symptomau, a bod y rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser yr ofari yn wynebu gwell canlyniadau. Dyna pam yr oeddwn wrth fy modd yn ymuno ag eraill a chymryd rhan yn nigwyddiad ‘Teal Hero’ eleni gyda Target Ovarian Cancer i greu cynnydd cadarnhaol."
Ychwanegodd Peredur: "Mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yng Nghymru. Hoffwn weld gwelliant mewn ymwybyddiaeth o ganser yr ofari fel y gallwn fynd i'r afael â'r ystadegau – ac achub bywydau."
Dywedodd Alexandra Holden, Dirprwy Brif Weithredwr Target Ovarian Cancer: "Mae mor bwysig ein bod yn parhau i ddod at ein gilydd mewn digwyddiadau fel hyn i weithio i drawsnewid dyfodol canser yr ofari.
"Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r ASs hyn i wneud gwelliannau mewn diagnosis a goroesiad y mae menywod â chanser yr ofari a'u teuluoedd yn eu haeddu."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb