Peidiwch ag oedi i wneud cais am Gredyd Pensiwn – Peredur

Pred_Profile_8.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi annog pensiynwyr ar incwm isel i wirio a ydyn nhw yn gymwys i gael credyd pensiwn.

Yn ôl Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru ac sy'n llefarydd y blaid ar Bobl Hŷn, y gred yw bod hyd at 70,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn gymwys am y taliadau untro ond nad ydyn nhw'n eu hawlio.

Mae rheswm ychwanegol i gyflwyno cais am gredyd pensiwn gan y bydd cais llwyddiannus a gyflwynwyd cyn Awst 18fed hefyd yn datgloi taliad costau byw o £650 gan Lywodraeth y DU. 

Dywedodd Peredur: "Mae ein cymunedau yn wynebu cyfnod eithriadol o galed gyda'r rhagolygon economaidd yn dywyll a'r argyfwng costau byw yn mynd i waethygu.

"Mae'n hanfodol fod pobl yn hawlio'r budd-daliadau haeddiannol i sicrhau eu bod yn cynyddu incwm eu haelwydydd i'r eithaf.

"Mae'n anffodus nad yw degau o filoedd o bensiynwyr sy'n gymwys am daliadau credyd pensiwn, wedi gwneud cais eto. Rwy'n annog pawb sy'n credu y gallant fod yn gymwys i gael eu cais i mewn cyn gynted â phosibl oherwydd os caiff ei gyflwyno cyn August 18, bydd hefyd yn datgloi taliad untro ychwanegol gan Lywodraeth y DU i helpu gyda chostau byw.

"Gall credyd pensiwn hefyd roi mynediad i nifer o fudd-daliadau eraill megis cymorth gyda chostau tai, treth cyngor, biliau gwresogi a thrwydded deledu am ddim i'r rhai 75 oed neu hŷn."

Ychwanegodd Peredur: "Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i dynnu sylw at y mater credyd pensiwn i'r rhai sy'n gymwys ond sydd heb wneud cais eto. Bydd y 70,000 o bensiynwyr yng Nghymru sy'n gymwys ond sydd heb dderbyn yr arian yma eto yn byw mewn tlodi ac yn ei chael hi'n anodd bob dydd.

"Mae hefyd yn golygu bod ein cymunedau yn colli miliynau o bunnau bob blwyddyn. Mae hynny'n annheg ac mae angen i rywbeth gael ei wneud gan Weinidogion Llafur i ddod â'r ffigwr yna i lawr."

Os ydych chi'n bensiynwr sengl, ac os yw eich incwm yn llai na £182.60 yr wythnos, mae'n debygol y byddwch yn gymwys am y taliad yma. Ffoniwch y llinell hawlio Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 (ffôn testun 0800 169 0133) a bydd y cais yn cael ei lenwi dros y ffôn.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-08-16 14:17:52 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd