Mae Aelod Senedd lleol wedi croesawu cynlluniau ei blaid i helpu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS fod 'Cynllun y Bobl' yn cynnig rhai atebion radical sydd eu hangen i'r problemau ariannol enfawr y mae teuluoedd yn eu hwynebu.
Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru bod y storm berffaith o gyflogau isel a chost gynyddol hanfodion dyddiol yn golygu bod angen ymyrraeth fawr gan y wladwriaeth i achub bywydau'r gaeaf hwn.
Mae 'Cynllun y Bobl' - fyddai angen ei gynhyrchu ar y cyd â Chyllideb Frys - wedi'i anelu at y rhai sydd angen help fwyaf ac yn cynnwys polisïau fel:
- Canslo codiad pris mis Hydref, gan adfer cap pris sylweddol is y gaeaf diwethaf o £1,277 y flwyddyn, ac ymestyn y cap prisiau y tu hwnt i'r terfyn chwe mis ar gyfer cartrefi a busnesau.
- Darparu codiad o £25 i Gredyd Cynhwysol ar unwaith ac ymrwymo i gynyddu'r holl fudd-daliadau yn unol â chwyddiant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
- Cyflwyno rhewi rhent yn y sector rhentu preifat a gwaharddiad ar droi pobl allan o'u tai y gaeaf hwn fel cam cyntaf at system o reoli rhent.
- Rhewi prisiau tocynnau rheilffordd ar gyfer 2023, gyda mwy o docynnau yn cael eu gwerthu am hanner pris, a chapio prisiau bws am £2.
- Ehangu'r polisi prydau ysgol am ddim cyffredinol i bob disgybl ysgol uwchradd, gan ddechrau gyda'r holl blant hynny y mae eu teuluoedd yn derbyn Credyd Cynhwysol.
- Darparu cyflog teg yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd Peredur y byddai'r polisïau yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r rheiny sydd â'r lleiaf gan adleisio apêl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, i'r Llywodraeth Lafur i gydweithio â nhw i wneud iddo ddigwydd.
"Mae'r argyfwng hwn, a wnaed gymaint yn waeth gan y diffyg arweiniad, cymhwysedd a moesau o fewn San Steffan, yn ddigynsail," meddai Peredur.
"Rydyn ni'n gwybod bod y Torïaid yn San Steffan yn gallu gwneud yr hyn sy'n ofynnol oherwydd eu cweryla mewnol a'u diffyg tosturi tuag at y rhai mwyaf bregus.
"Mae'n bryd i Gymru gyflawni llechen radical o bolisïau i helpu pobl allan ac mae Cynllun y Bobl yn gwneud hynny.
"Rydym wedi dangos gyda'r cytundeb Cydweithredu gyda Llafur y gallwn roi ein gwahaniaethau o'r neilltu er lles y genedl.
"Mae gennym gyfle arall i wneud hynny ac ni allwn adael iddo lithro drwy'n bysedd. Bydd pobl yn marw'r gaeaf hwn heb fwy o help.
"Ni ellir caniatáu i hynny ddigwydd felly rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur yn cydweithio gyda ni ac yn mabwysiadu rhai o'r polisïau cyn ei bod hi'n rhy hwyr."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb