Mae AS Plaid Cymru wedi ymweld â fferyllfa leol i weld y gwaith sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni i ddarparu eu gwasanaeth cymunedol.
Cafodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, daith o amgylch Fferyllfa Malpas yng Nghasnewydd gan ei berchennog Geoff Thomas. Yn ystod yr ymweliad, cyflwynwyd Peredur i rai o'r 30 aelod o staff a gyflogir yn y fferyllfa sy'n darparu gwasanaeth i nifer o gartrefi nyrsio yn ogystal â'r prif wasanaeth gweinyddu.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Peredur: "Dysgais lawer yn ystod yr ymweliad hwn am y gwaith caled sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn fferyllfa brysur i ddarparu gwasanaeth ardderchog i'r gymuned.
"Roedd arbenigedd ac ymroddiad Geoff a'i dîm gwych yn ysbrydoledig. Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae fferyllfeydd wedi bod yn rhan annatod o'r frwydr yn erbyn coronafeirws ac mae wedi tanlinellu'r rôl aruthrol y maent yn ei chwarae mewn cymunedau lleol.
"Rwy'n ddiolchgar i bob aelod o feddygfa Malpas am gymryd amser allan o'u diwrnod prysur i roi gwell dealltwriaeth i mi o'r rôl y maent yn ei chyflawni a'r heriau sy'n gysylltiedig â rhedeg fferyllfa brysur."
Dywedodd Clara McCool, fferyllydd ym Fferyllfa Malpas: "Roeddem yn falch iawn o groesawu Peredur Owen Griffiths, Aelod newydd o'r Senedd i Fferyllfa Malpas.
"Cawsom gyfle i drafod arferion dydd i ddydd ein fferyllfa gymunedol amlochrog ac ymhelaethu ar y rôl gynyddol ganolog y mae fferylliaeth yn ei chwarae wrth hyrwyddo gofal iechyd yn yr ardal leol.
"Fel y fferyllfa brysuraf yng Nghasnewydd, rydym yn cynnig trawstoriad o fferylliaeth gymunedol mewn gofal sylfaenol. Mae gennym adrannau arbenigol sy'n cefnogi cartrefi nyrsio, gofal lliniarol, a darparu systemau dognau wedi'u monitro.
"Wedi'i hwyluso gan dîm fferylliaeth â chymwysterau uchel, mae hyn yn rhedeg ochr yn ochr â'n prif weinyddwr bywiog ac ystod eang o wasanaethau gofal iechyd hygyrch.
"Yng nghanol heriau pandemig COVID-19, rydym wedi cyflwyno ein technoleg dosbarthu o'r radd flaenaf 'Titan' i reoli parhad a darparu gofal rhagorol i gleifion."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb