Mae Aelod o Senedd Plaid Cymru wedi datgan siom bod cynlluniau i adfer gwasanaethau post mewn cymuned ym Mlaenau Gwent wedi cymryd "cam yn ôl."
Mae Peredur Owen Griffiths AS wedi derbyn llythyr gan Swyddfa'r Post i ddweud bod y postfeistr newydd arfaethedig wedi tynnu allan o gynlluniau i gymryd drosodd gwasanaethau ar gyfer ardal Cefn Golau.
Daeth gwasanaethau Swyddfa'r Post i ben yn sydyn yn yr ardal ar ddechrau'r mis gydag ymddiswyddiad y postfeistr. Ysgrifennodd Peredur at Swyddfa'r Post ar unwaith i ofyn am sicrwydd y byddent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ailgychwyn gwasanaethau ar gyfer Cefn Golau.
Yn y llythyr diweddaraf at Mr Owen Griffiths, dywedodd rheolwr ymgynghori Swyddfa'r Post Leonard P Harbin: 'Yn dilyn ein llythyr diweddar ynghylch Swyddfa Bost Cefn Golau, ysgrifennaf atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi fod y postfeistr newydd arfaethedig, yn anffodus, wedi penderfynu peidio â symud ymlaen ymhellach gyda'u cais.
'Mae darparu gwasanaeth Swyddfa'r Post i'n cwsmeriaid yn y gymuned leol yn bwysig i ni a byddwn yn parhau i weithio'n galed i adfer gwasanaethau yn yr ardal cyn gynted â phosibl. Byddem yn croesawu unrhyw geisiadau gan bartneriaid manwerthu posibl sydd â diddordeb mewn rhedeg cangen yn lleol ar ein rhan.’
Ychwanegodd: 'Hoffwn eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed i gadw unrhyw gyfnod cau mor fyr â phosibl ac rydym wrthi'n ymchwilio i'r opsiynau sydd ar gael a fydd yn ein galluogi i adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Wrth archwilio hyn, mae'n bwysig bod unrhyw wasanaeth yn y dyfodol yn gynaliadwy i'r sawl sy'n gweithredu'r gwasanaeth, ac i Swyddfa'r Post Cyfyngedig.’
Mewn ymateb, dywedodd Peredur: "Mae'n siomedig bod ymdrechion i sicrhau bod gwasanaethau swyddfa post yn dychwelyd i Gefn Golau wedi cymryd cam yn ôl. Yr oeddwn i, a llawer o rai eraill, yn obeithiol y byddai gwasanaeth Swyddfa'r Post yn ailddechrau'n gyflym i bobl Cefn Golau.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgymryd â'r gwasanaeth cymunedol hanfodol hwn i gofrestru eu diddordeb gyda Swyddfa'r Post cyn gynted â phosibl drwy wefan www.runapostoffice.co.uk
"I gynifer o bobl, yn enwedig y rhai nad ydynt yn gyfforddus yn gwneud pethau ar-lein, mae'r swyddfa bost yn wasanaeth hanfodol ac yn darparu linc i'r byd y tu allan. Rwy'n gobeithio y bydd ymdrechion i ddenu rhywun i redeg gwasanaethau Swyddfa'r Post yng Nghefn Golau yn dwyn ffrwyth yn fuan."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb