Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i fanteisio ar y cyfle i greu degau o filoedd o swyddi a chefnogi busnesau cartref.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, y gallai gwella lefelau caffael cyhoeddus - sef prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith o fewn Cymru - greu bron i 50,000 o swyddi gan lywodraethau a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus.
Mae hyn wedi bod yn elfen allweddol o bolisi Plaid Cymru dros y degawd diwethaf. Codi lefelau caffael cyhoeddus yw un o'r nodau ar gyfer y Mesur Partneriaeth a Chaffael Cymdeithasol drafft sy'n cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth Lafur.
Yn ystod ymateb i ddatganiad gan y Llywodraeth ar y bil drafft, dywedodd Peredur: "Ers 2012, mae Plaid Cymru wedi galw'n barhaus am fwy o gaffael cyhoeddus, polisi a nodwyd gennym unwaith eto yn ein maniffesto diweddaraf.
"Rydym am gynyddu cyfran cwmnïau Cymru o gontractau o 52 y cant i 75 y cant o'r gyllideb caffael cyhoeddus.
"Amcangyfrifir y byddai hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol ac yn diogelu llawer o swyddi presennol yn economi Cymru.
"Mae hynny'n fudd posibl a fyddai'n drawsnewidiol i'n heconomi leol, ein busnesau lleol a'n cymunedau lleol. Dylai'r Llywodraeth hon, o'r diwedd, fanteisio ar y cyfle y mae caffael cyhoeddus yn ei gyflwyno, a gobeithio y bydd y Bil hwn, pan gaiff ei gwblhau, yn gwneud hynny."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb