Peredur yn Croes-holi y Prif Wenidog am Ymddygiad Cybyddlyd ei Gyd-Aelodau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Brynithel_tie_snip.PNG

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi cyhuddo awdurdod lleol sy'n cael ei redeg gan Lafur o ymddwyn fel 'Scrooge.'

Fe wnaeth Yr Aelod Seneddol dros ranbarth Dwyrain De Cymru y cyhuddiad am Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am godi £180m yn eu cronfeydd wrth gefn. Mae hyn yn gynnydd o £40 miliwn ers 2019. Mae hefyd £22 miliwn yn fwy na'r hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei ddal mewn cronfeydd wrth gefn, sy'n fwrdeistref llawer mwy o faint.

Gofynnwyd y cwestiwn yn ystod cyfnewid danbaid yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Dywedodd Peredur: "O siarad ag arweinwyr cynghorau yn fy rhanbarth i, mae'n deg dweud bod llawer wedi'u synnu ar yr ochr orau gan y setliad ariannol diweddaraf.

"Felly mae'n rhaid ei bod yn siomedig, o'ch safbwynt chi, i weld eich cyd-aelodau yn eich plaid ym mwrdeistref sirol Caerffili yn eistedd ar gronfa wrth gefn o £180 miliwn, cynnydd o £40 miliwn rhwng blynyddoedd ariannol 2019 a 2021.

"Mae hyn £22 miliwn yn fwy na'r hyn sydd gan Gyngor Caerdydd, bwrdeistref llawer mwy, yn ei gronfeydd wrth gefn. Er bod yr arian wrth gefn yn codi, gwelwn gyfleusterau hamdden yn cau, mae goleuadau stryd wedi'u diffodd ac mae darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer oedolion ag anabledd yn cael ei thorri.

"Nid arian parod yw'r unig ateb i'r problemau hyn, ond, ym mron pob achos, byddai'n helpu i leddfu'r sefyllfa ac adfer rhai gwasanaethau.

"Brif Weinidog, a ydych yn teimlo'n rhwystredig pan fyddwch yn darparu setliadau ariannol digonol i'ch cyd-aelodau yn eich plaid mewn llywodraeth leol iddynt eistedd ar y pentyrrau hyn o arian parod, fel rhyw fersiwn cyngor o Scrooge?"  

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod yn rhaid i awdurdodau lleol fod wedi clustnodi cronfeydd wrth gefn a chadw arian ar gyfer adeiladu ysgolion.

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-04-26 15:37:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd