Sut i Atal Abolish yn Nwyrain De Cymru

Os ydych wedi bod yn dilyn yr arolygon barn ynghylch etholiad y Senedd, fydd yn digwydd ar 6 Mai, efallai eich bod wedi sylwi bod rhai ohonynt yn awgrymu gallai Abolish ennill sedd restr yn ein rhanbarth ni yn Nwyrain De Cymru. Mae'r rhanbarth yn cynnwys yr etholaethau canlynol: Blaenau Gwent, Caerffili, Islwyn, Merthyr, Mynwy, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Torfaen.

Mae Abolish yn blaid dde eithafol sydd am ddinistrio democratiaeth Cymru a chwtogi ar hawliau pobl sydd wedi'u hennill yn galed. Maen nhw hefyd eisiau gwahau yr iaith Gymraeg.

Mae'r blog hwn yn esboniad o sut mai pleidleisio Plaid Cymru gyda'ch pleidlais restr (y cyfeirir ati weithiau fel eich pleidlais ranbarthol neu ail bleidlais) yw'r unig ffordd o atal hyn rhag digwydd, a bydd yn cynnwys prawf mathemategol, fel bod dim rhaid i chi gymryd ein gair ni amdano!

Pam alla i ddim Pleidleisio dros Lafur i atal Abolish?

Mae pobl sy'n pleidleisio dros Lafur gyda'u pleidlais etholaethol fel arfer yn pleidleisio dros Lafur ar y rhestr hefyd, gan feddwl y bydd hyn yn golygu bydd dau gynrychiolydd Llafur yn cael eu hethol. Ond nid yw'n gweithio felly. Dyrennir seddi rhestrau gan ddefnyddio fformiwla fathemategol (a elwir yn Fformiwla D'Hondt) sy'n dyrannu seddi ar sail lled-gyfrannol. Gan fod Llafur wedi ennill naill ai 6 neu 7 etholaeth yn y rhanbarth ym mhob etholiad Senedd hyd yma, nid ydynt erioed wedi dod yn agos at ennill sedd restr. Mae seddi'r rhestr yn mynd i bleidiau nad ydynt yn ennill cymaint o etholaethau. Mae hyn yn golygu bod pob pleidlais restr i Lafur yn Nwyrain De Cymru ers dyfodiad datganoli yn 1999 wedi'i gwastraffu. Nid oedd yn effeithio ar ba bleidiau enillodd seddi rhestr. Mae pleidleisio Llafur ar y rhestr yn helpu'r Torïaid a phleidiau dde eithafol fel UKIP a Abolish.

Beth ddigwyddodd yn 2016?

Yn 2016 fe wnaeth 74,424 o bobl bleidleisio dros Lafur gyda'u pleidlais rhestr. Yn y diwedd, ni etholwyd unrhyw gynrychiolwyr Llafur ar y rhestr, gyda dau Aelod UKIP yn dod i mewn yn lle hynny, yn ogystal ag un Aelod Torïaidd ac un o Blaid Cymru. Petai dim ond 5,000 o'r pleidleisiau Llafur hynny oedd wedi mynd i Blaid Cymru, byddai wedi atal un o'r Aelodau UKIP rhag cael ei ethol, gyda'r bedwaredd sedd yn mynd i ymgeisydd blaengar Plaid Cymru yn lle hynny.

Mae posibiliad bydd yr union senario yn digwydd eleni. Ar hyn o bryd mae'n edrych yn debyg y bydd Plaid Cymru yn cymryd un sedd restr, y Torïaid yn cael dwy gyda'r un olaf yn ornest uniongyrchol benben rhwng Plaid Cymru ac ymgeisydd Abolish. Ni fydd pleidlais restr i Lafur yn cael unrhyw effaith ar y canlyniad: yr unig ffordd o atal Abolish yw drwy bleidleisio dros Blaid Cymru. Me’r dewis rhwng cynrychiolydd blaengar o Blaid Cymru neu Abolish.

Os ydych eisiau atal Abolish, yna dywedwch wrth unrhyw un o'ch ffrindiau sy'n bwriadu pleidleisio dros Lafur ar y rhestr y dylent bleidleisio dros Blaid Cymru gyda’u pleidlais rhanbarthol, gan mai ni yw'r unig blaid a all atal y dde eithafol. Mae Plaid Cymru yn rhannu llawer o werthoedd gyda chefnogwyr Llafur: ar gyfer y bleidlais ar y rhestr, byddai'n well gan y rhan fwyaf o gefnogwyr Llafur gael cynrychiolydd Plaid Cymru nag Abolish, ac mae ganddynt y pŵer i helpu i wneud i hynny ddigwydd.

Y Prawf

Gan ddefnyddio'r data o'r ‘Welsh Political Barometer’ diweddaraf gallwn roi'r nifer tebygol o bleidleisiau y bydd Abolish yn eu hennill.

Faint o bleidleisiau y mae Diddymu yn debygol o'u hennill

7,870 (nifer y pleidleisiau rhestr yn SWE yn 2016) x newid mewn  canran pollio cenedlaethol (7/4.4) = 12,520

Felly er mwyn atal Abolish rhag cael sedd, bydd angen i blaid arall gael mwy o bleidleisiau na hyn ar gyfer sedd 4.

Gan ein bod yn gwybod na all Llafur ennill seddi rhestr, nad ydi'r Gwyrddion erioed wedi dod yn agos a bod y Democratiaid Rhyddfrydol allan o'r gêm hefyd nawr gan mai dim ond 4% o gefnogaeth sydd ganddynt, gallwn gyfrifo faint o bleidleisiau ychwanegol y bydd eu hangen ar Blaid Cymru i drechu Abolish.

Faint o bleidleisiau rhestr y mae Plaid Cymru yn debygol o'u hennill

29,626 (nifer y pleidleisiau rhestr yn SWE yn 2016) x newid mewn canran cefnogaeth cenedlaethol % (23/20.8) = 32,760

Gan dybio bod Plaid Cymru yn ennill un etholaeth ac sedd rhestr rhif 2 (fel mae’r polau’n awgrymu), yna rydym yn rhannu hyn â 3, sef nifer y seddi fydd gan y blaid yn y rhanbarth +1 (sut mae cyfrifiad D'Hondt yn gweithio) er mwyn cyfrifo'r nifer ar gyfer sedd 4.

Nifer y pleidleisiau y mae Plaid Cymru yn debygol o'u cael ar gyfer sedd 4 ar ôl cyfrifiad D'Hondt

32,760/3 = 10,920

Mae hyn yn is na'r 12,520 y bydd Abolish ei gael, sy'n golygu y bydd Abolish yn cymryd sedd 4 ar hyn o bryd.

Er mwyn atal hyn rhag digwydd, mae angen i Blaid Cymru ennill 3 gwaith yn fwy o bleidleisiau rhestr na Abolish ar y rhestr. Gallwn weithio allan y rhif yn hawdd.

Nifer y pleidleisiau sydd eu hangen ar Blaid Cymru yn y rhanbarth i guro Abolish

12,520 x 3 = 37, 560= 37,560.

Felly o gofio bod Plaid Cymru ar y trywydd ar hyn o bryd i ennill 32,760 o bleidleisiau rhestr, a bod angen cyfanswm o 37,560 arnynt i ennill y 4ydd sedd restr, gallwn gyfrifo nifer y cefnogwyr Llafur / Democratiaid Rhyddfrydol / Gwyrdd y bydd angen iddynt bleidleisio dros Blaid Cymru ar y rhestr i atal Abolish.

37,560 - 32,760 = 4,800.

Mae hyn yn golygu mai dim ond tua 5,000 allan o 74,424 o bleidleiswyr a bleidleisiodd dros Lafur ar y rhestr yn 2016 sydd angen newid i Blaid Cymru ar y bleidlais ar y rhestr. Byddai’r nifer hyd yn oed yn llai os bydd cefnogwyr Gwyrdd a Rhyddfrydol yn cefnogi Plaid Cymru hefyd. Os bydd hyn yn digwydd ni fydd gan Abolish unrhyw bresenoldeb yn Nwyrain De Cymru: byddant wedi cael eu trechu. Yn y cyfrifiad olaf, byddai gan y rhanbarth 6 chynrychiolydd Llafur (pob un yn seddi etholaeth), 3 Tori (1 etholaeth a dau rhestr) a 3 Plaid Cymru (1 etholaeth a 2 rhestr).

Mae hefyd yn gwneud synnwyr gwleidyddol i gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion roi cefnogaeth i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn, gan y bydd y pleidiau hyn yn gallu ennill seddi i'r Senedd os caiff polisi Plaid Cymru o gynyddu ei maint ei weithredu. Mae pawb yn ennill.

Mae dyfodol ein rhanbarth yn eich dwylo chi.


Dangos 1 ymateb

  • Peredur Owen Griffiths
    published this page in Newyddion 2021-04-30 20:18:55 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd