Bydd AS Plaid Cymru yn sefydlu grwp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau fel rhan o "sgwrs genedlaethol" yn y Senedd.
Datgelodd Peredur Owen Griffiths y newyddion mewn dadl fer i drafod sut y gallai Cymru ddatblygu system fwy effeithiol ar gyfer trin camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth.
Dywedodd AS Dwyrain De Cymru ei fod am ddod ag arbenigwyr yn y maes at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau gwell canlyniadau i drin y rhai mewn angen gyda mwy o dosturi.
Yn ystod ei ddadl fer, defnyddiodd Peredur enghraifft Portiwgal, fel gwlad a oedd â phroblem gyffuriau ddifrifol ond a newidiodd eu sefyllfa wael mewn cyfnod byr o amser.
"Er fod marwolaethau cyffuriau yn ystyfnig o uchel mewn rhannau helaeth o'r DU," meddai Peredur. "Mae'n rhaid i ni gofio, y tu ôl i bob marwolaeth, fod cost ddynol sy'n effeithio ar deulu a ffrindiau am y blynyddoedd sy'n dilyn.
"Fel gyda phob ystadegau, ni ddylem fyth golli golwg ar y gost ddynol i gymdeithas ac i'n cymunedau. Ni ddylem ychwaith anghofio am yr hafoc y mae'r polisi hwn yn ei gael ar wledydd sy’n cynhyrchu cyffuriau lle mae’r frwydr yn cael ei ymladd yn ddyddiol rhwng carteli. Mae Mecsico yn enghraifft wych o wlad sydd wedi'i dadsefydlogi o ganlyniad i'r polisi cyffuriau hwn.
"Yr hyn yr wyf yma i’w wneud ar gyfer heno hon yw eirioli dros sgwrs genedlaethol sy'n ceisio sefydlu system well a mwy tosturiol o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau.
"Mae angen i ni ddeall profiad byw pob plaid dan sylw a rhoi ystyriaeth briodol i bob ateb posib.
"Pa bynnag blaid rydych chi'n ei chynrychioli yn y Senedd, neu beth bynnag yw eich barn am gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio.
"Os ydych chi'n dal heb ei argyhoeddi, efallai gofynnwch i chi'ch hun pam nad yw y rhyfel ar gyffuriau wedi dod i ben genedlaethau'n ôl os oedd yn gweithio?"
Ychwanegodd: "Dydw i ddim eisiau i'r ddadl fer hon fod yn ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon yn unig pan fo alcohol yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymunedau a theuluoedd ledled Cymru. Byddai'n esgeulus i beidio â sôn am alcohol pan mae ystadegau wedi awgrymu fod tua 10 o bobl yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol.
"Amcangyfrifir hefyd bod alcohol yn arwain at tua 60,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yng Nghymru, gan gostio tua £159 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Gyda'r GIG yn gwegian o dan y pwysau, siawns na ddylai dod o hyd i ffyrdd o ddelio ag effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol fod yn flaenoriaeth.
"Rwyf am i ni gyrraedd sefyllfa lle mae pobl sy'n cymryd y cam dewr o ofyn am help i oresgyn dibyniaeth – boed hynny ar gyfer cyffuriau neu alcohol – yn gwybod y bydd cymorth ar gael ac yn gynhwysfawr."
Daeth â'r ddadl i ben drwy ddweud: "Dydw i ddim yn esgus fod gennyf yr holl atebion - dydw i ddim yn siŵr os oes gan unrhyw un yr atebion i gyd. Ond hoffwn ddechrau trafodaeth am sut y gallem fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn fwy effeithiol a sicrhau bod pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael eu bywydau'n ôl ar y trywydd iawn.
"Rwyf am i'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol am gynorthwyo camdrinwyr sylweddau ddod at ei gilydd yn rheolaidd a siarad am eu problemau a'u harsylwadau gydag Aelodau'r Senedd. Dyna pam yr wyf yn cymryd camau i ddechrau grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau fel ein bod yn datblygu arfer gorau.
"Mae gen i gefnogaeth asiantaethau allweddol fel Kaleidoscope yn barod ond rwy'n gobeithio y bydd llawer o sefydliadau a ffigurau yn dod i'r adwy. Mae gennyf hefyd y gefnogaeth o leiaf dau Aelod o'r Senedd o wahanol bleidiau i ffurfio'r grŵp trawsbleidiol. Gobeithio y bydd llawer mwy ohonoch yn ymuno.
"Fy ngobaith i - a'm plaid i - yw bod Cymru yn y pen draw yn cael datganoli pwerau dros gyfiawnder i Gymru, a phan fyddwn yn gwneud hynny, ein bod yn llunio system sy'n dosturiol, yn lleihau niwed ac yn rhyddhau'r gafael sydd gan lawer o gangiau troseddol ar y gwan a'r bregus yn ein cymunedau.
"I'r perwyl hwnnw, rwy'n gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth Weinidog i ymgysylltu â'r grŵp trawsbleidiol hwn a datblygu polisi sy'n ceisio cyflawni'r nodau hyn a dechrau sgwrs ehangach sy'n arwain at ddull mwy effeithiol o fynd i'r afael â chamddefnyddio a dibyniaeth ar sylweddau."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb