Colli Gwasanaethau Swyddfa'r Post yn Ergyd Fawr i Gymuned ym Mlaenau Gwent - Peredur

Pred_profile_4.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi galw ar Swyddfa'r Post i "wneud popeth o fewn eu gallu"  i adfer gwasanaethau i gymuned ym Mlaenau Gwent.

Mae Swyddfa'r Post wedi cyhoeddi y bydd swyddfa bost yng Nghefn  Golau yn cau ar unwaith oherwydd ymddiswyddiad y postfeistr. Mewn datganiad a anfonwyd at wleidydd lleol, dywed Swyddfa'r Post eu bod hefyd wedi colli'r defnydd o'r adeilad presennol ar gyfer gwasanaethau Swyddfa'r Post.

Mewn datganiad, dywedodd Katimay John Arweinydd Darpariaeth Rhwydwaith Swyddfa'r Post: “Hoffwn eich sicrhau ein bod ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r opsiynau sydd ar gael a fydd yn ein galluogi i adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Wrth archwilio hyn, mae'n bwysig bod unrhyw wasanaeth yn y dyfodol yn gynaliadwy i'r sawl sy'n gweithredu'r gwasanaeth, ac i Swyddfa'r Post Cyfyngedig.

'Bydd darpariaeth yn y dyfodol yn adlewyrchu niferoedd cwsmeriaid a defnydd ac efallai y byddwn yn manteisio ar y cyfle i sefydlu math arall o wasanaeth. Gall hon fod yn gangen leol sy'n rhedeg ochr yn ochr â siop fanwerthu sefydledig mewn adeilad sydd newydd ei hadnewyddu ac sy'n creu profiad mwy modern a chyfleus i gwsmeriaid.'

Mewn ymateb, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Dwyrain De Cymru: "Mae hyn yn newyddion drwg i Gefn Golau, sy'n gymuned glos sydd wedi ei hynysu oddi wrth ardaloedd eraill o Flaenau Gwent.

"Mae'r swyddfa bost yn darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion lleol; bydd rhai ohonynt yn ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl cyrraedd eu dewis amgen agosaf.

"Byddaf yn ysgrifennu at Swyddfa'r Post heddiw i ofyn iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei adfer ar gyfer y gymuned cyn gynted â phosibl."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-07-02 12:49:07 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd