Beth sydd ar eich meddwl?
Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i chi fy mod i, a thîm Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent, yma i helpu yn y cyfnod anodd hwn. Rwyf wedi clywed straeon sy'n cynhesu'r galon am bobl leol yn cyd-dynnu i gefnogi ei gilydd i greu cymunedau gwell i ni i gyd.
Mae'n dangos, os byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, y gallwn ni i gyd gyflawni cymaint dros ein cymunedau.
Nid ydym heb ein heriau: o weithfeydd ffordd Blaenau'r Cymoedd i systemau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn gweithio gyda'i gilydd; o drafnidiaeth gyhoeddus annigonol yn y Sir i'r diffyg buddsoddiad i greu swyddi newydd i bobl leol. Mae'r rhain yn faterion sy'n achosi pryder i lawer o bobl ac mae arnynt angen gwneud rhywbeth amdanynt, yn enwedig yn dilyn Covid-19.
Rwy'n awyddus i siarad â chymaint o bobl â phosibl i glywed syniadau a barn fel y gallwn gyda'n gilydd gyflwyno atebion ar gyfer gwell Blaenau Gwent.
Rwyf am glywed gennych - beth ddylai fod fy mlaenoriaeth i Flaenau Gwent, cysylltwch drwy'r ffurflen isod.
Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y croeso cynnes rwyf wedi'i gael gan gynifer ohonoch wrth i mi weithio i fod eich cynrychiolydd nesaf chi yn y Senedd. Os wyf eisoes wedi siarad â chi: Diolch am gymryd yr amser i drafod y materion sy'n effeithio arnom i gyd. Os nad ydym wedi siarad eto, gobeithio y cawn gyfle'n fuan.
Dymuniadau gorau
Peredur Owen Griffiths
Dywedwch wrthym