Mae’r Gweinidog Cysgodol dros Addysg, Siân Gwenllian AS, wedi galw am drefn brofi glir i ar gyfer staff sy’n gweithio mewn ysgolion i fod ar waith yn barod cyn i ysgolion yn ail-agor.
Byddai hyn yn ychwanegol at y profion gwrthgyrff (antibodies) mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u haddo.
Mae prawf gwrthgorff yn dangos a yw unigolyn wedi cael coronafirws yn y gorffennol, ond nid yw’n dangos os yw person yn heintus ar hyn o bryd.
Dywedodd Ms Gwenllian y “dylem fod yn defnyddio’r holl offer sydd ganddom i sicrhau diogelwch addysgwyr ein cenedl.”
Ar y 29ain o Fehefin bydd ysgolion yng Nghymru yn ailagor eu drysau i bob disgybl.
Addawodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, y byddai athrawon “yn y grŵp blaenoriaeth” parthed y profion gwrthgyrff newydd, ond nid oes dyddiadau pendant am bryd y gallai athrawon ddisgwyl mynediad at y profion hyn eto.
Dywedodd Ms Gwenllian ei bod yn awyddus bod athrawon yn elwa o'r holl brofion sydd ar gael, a bod hyn yn digwydd cyn i athrawon ddychwelyd i’r ysgol.
Dywedodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru:
“Mae athrawon a chynorthwywyr addysg yn bryderus iawn am ddychwelyd i ysgolion. Gyda chyn lleied o wybodaeth ar gael am y ffordd y mae'r firws yn lledaenu, yn enwedig ymhlith plant, mae'n ddealladwy y byddai hyn yn achosi straen ychwanegol ar adeg sydd eisoes yn gythryblus.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod athrawon yn mynd i gael profion gwrthgyrff a bod trefn brofi glir ar waith cyn iddynt ddychwelyd i’r ysgol. Os oes gan athro brawf gwrthgorff negyddol, mae dal yn bosibl fod ganddyn nhw’r feirws heb fod yn cario’r symptomau. Byddent yn dychwelyd i amgylchedd yr ysgol, gan roi y rhai o'u cwmpas mewn risg wedyn.
“Os darparu’r ddau brawf i athrawon, bydd yn rhoi mwy o hyder iddynt y gall dychwelyd i leoliad ysgol fod yn ddiogel. Mae gennym gymaint i'w ddysgu o hyd am y clefyd hwn, ac ar hyn o bryd dylem geisio darparu cymaint o gysur ag sy'n bosibl i addysgwyr ein plant.
“Ar adeg mor heriol, rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw eu haddewid na fydd unrhyw ddisgyblion sydd ddim yn dymuno dychwelyd i ysgol ar 29 Mehefin yn derbyn camau disgyblu yn eu herbyn. Hoffwn hefyd weld mwy o adnoddau iechyd meddwl ar gael i athrawon sy'n ei chael hi'n anodd meddwl am fynd yn ôl i'r ysgol.
“Fe ddylen ni fod yn defnyddio’r holl offer sydd ar gael i sicrhau diogelwch addysgwyr ein cenedl.”
Dangos 1 ymateb