Wrth siarad am yr adroddiad damniol a ryddhawyd gan Arolygiaeth Iechyd Cymru i Ysbyty'r Faenor, dywedodd AS Plaid Cymru ar gyfer Dwyrain De Cymru, Peredur Owen Griffiths: "Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun tywyll o ysbyty sy'n nghanol trafferthion.
"Er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff ymroddedig yn Y Faenor, mae cleifion yn aros yn rhy hir mewn ystafell aros, mewn ysbyty sy'n rhy fach ac yn rhy anghyfforddus.
"Dim ond y llynedd y cafodd yr ysbyty blaenllaw hwn ei agor yn swyddogol ac mae'n anodd credu bod diffygion sylfaenol o'r fath wedi dod i'r amlwg mor fuan.
"Yn ddiweddar wnes i ddarganfod bod criwiau ambiwlans yn aros y tu allan i'r Grange am gyfartaledd o dros 2,000 o oriau bob wythnos. Mae hynny'n wastraff anhygoel o amser staff gwerthfawr, heb sôn am brofiad ofnadwy i gleifion sy'n cael eu gadael yn aros mewn ambiwlansys."
Ychwanegodd Peredur: "Mae angen i'r Llywodraeth Lafur gael gafael ar y tagfeydd sy'n achosi problemau mawr i gleifion a staff fel ei gilydd. Nes y byddan nhw'n gwneud hynny, bydd boddhad cleifion a morâl staff yn parhau'n is nag y dylen nhw fod.
"Mae yna frys hefyd i gael trefn ar hyn cyn y pwysau ychwanegol anochel sy'n dod bob gaeaf. Does dim amser i’w golli gan y Gweinidog Iechyd."
Mae'r adroddiad cryno i'w weld yma.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb