Rhaid i'r Torïaid barhau a’r Codiad Credyd Cynhwysol - Peredur

Pred_profile_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi galw cynlluniau'r Llywodraeth Dorïaidd i leihau'r cynnydd i Gredyd Cynhwysol fel un "creulon ac anghyfiawn."

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y wlad yn ei ranbarth yn Nwyrain De Cymru, na ddylai'r Torïaid leihau Credyd Cynhwysol na Chredydau Treth Gwaith os oedd ganddyn nhw unrhyw dosturi.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y Canghellor y byddai'r cynnydd o £20 yn cael ei dorri o Hydref 6ed i'w lefel flaenorol. Cyhoeddodd hefyd y byddai'r cynnydd ar gyfer Credydau Treth Gwaith yn dod i ben ar 6 Ebrill 2021 gyda hawlwyr yn derbyn taliad un tro o £500 yn lle hynny.

Daeth galwadau Peredur wrth i adroddiad gan Sefydliad Bevan ddangos y bydd Cymru'n cael ei tharo'n anghymesur gan y newidiadau. Maent yn amcangyfrif y bydd y toriadau i Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith yn diddymu £286 miliwn oddi ar deuluoedd incwm isel yng Nghymru bob blwyddyn.

Dywedodd ymchwilwyr hefyd y bydd y toriad i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith ar gymunedau ledled Cymru gyda mwy na thraean o deuluoedd â phlant yr effeithir arnynt ym mhob etholaeth ond pedair. Yn etholaethau Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a Rhymni, mae 48% o deuluoedd â phlant yn derbyn Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith. Yn Nhorfaen, y ffigur yw 49%.

Dywedodd Peredur: "Mae llawer o gyllidebau cartrefi wedi bod dan straen oherwydd effaith coronafeirws. Yr oedd gennym eisoes lefelau uchel o dlodi a thlodi plant yng Nghymru a bydd hyn wedi'i waethygu gan y digwyddiadau digynsail a sbardunwyd gan y pandemig.

"Mae llawer o deuluoedd eisoes yn byw o dan neu ar ffin tlodi felly er mwyn i'r Llywodraeth Dorïaidd gael gwared ar y codiad Credyd Cynhwysol yn greulon ac anghyfiawn. Mae'n dangos eu bod yn gwbl ddi-hid i anghenion pobl yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn wynebu ymdrech ddyddiol i gael dau ben llinyn ynghyd.

"Os oes ganddynt unrhyw dosturi, byddant yn cyhoeddi tro pedol cyflym gyda'r polisi hwn ac yn cynnal y cynnydd sydd wedi bod yn achubiaeth i gynifer. Os na fyddant yn gwneud hyn, ni fydd llawer o bobl yng Nghymru yn maddau nac yn anghofio."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-09-09 17:00:24 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd