Mae Aelod Senedd Plaid Cymru wedi galw ar ofalwyr di-dâl i fanteisio ar daliad o £500 cyn i'r cynllun gau mewn pythefnos.
Yn ôl Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae'r cynllun yn gydnabyddiaeth brin o'r "gwaith aruthrol" y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ac y dylid manteisio'n llawn arno cyn y dyddiad cau.
Agorwyd cyfnod cofrestru'r taliad o £500 ar 15 Awst a bydd ar agor tan 2 Medi. Gall gofalwyr di-dâl oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr ar Fawrth 31 2022 wneud cais i'w hawdurdod lleol am yr arian.
Dywedodd Peredur: "Trwy Gymru credir fod 370,000 o ofalwyr yn cefnogi anwyliaid trwy ofal di-dâl.
"Mae eu gofal anhunanol a thosturiol yn clymu teuluoedd gyda'i gilydd ac yn caniatáu i'w ffrindiau neu deulu gynnal eu hannibyniaeth. Wrth wneud hyn, mae ein gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad anfesuradwy i'n cymunedau.
"Maen nhw hefyd yn arbed biliynau o bunnoedd i'r economi."
Ychwanegodd Peredur: "Rwy'n gobeithio bod pob gofalwr cymwys yn manteisio ar y taliad untro hwn o £500 ac yn ceisio amdano cyn y dyddiad cau o Medi 2ail.
"Yr arian yw'r lleiaf sy'n ddyledus am y gwaith a'r gofal aruthrol maen nhw'n ei ddarparu, drwy gydol y flwyddyn."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb