Mae AS Plaid Cymru wedi dweud bod adroddiad damniol i adran damweiniau ac achosion brys yn ei ranbarth yn "rhoi darlun truenus" o wasanaethau gwael yn y GIG.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS fod cleifion a staff Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr yn haeddu gwell na'r sefyllfa a ganfu staff Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystod ymweliad dirybudd ym mis Medi pan oedd yr ysbyty'n cael trafferthion yng nghyd-destun Covid.
Canfu eu hadroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, 'broblemau sylweddol o ran argaeledd gwelyau a llif cleifion ar draws yr ysbyty,' 'nad oedd y bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â llawer o'r Safonau Iechyd a Gofal' a bod 'profiad gwael i gleifion ar draws yr Adran Achosion Brys a'r Uned Penderfyniadau Clinigol.'
Canfu'r adroddiad fod y staff 'mewn dagrau ac â chywilydd i weithio' yn yr ysbyty.
Dywedodd Peredur: "Mae hwn yn adroddiad brawychus ac mae'n rhoi darlun truenus o ysbyty yn ei chael hi'n anodd iawn i ymdopi. Mae cleifion yn haeddu gwell, felly hefyd y staff na ddylent fod yn ofidus na’n teimlo cywilydd i ddod i'r gwaith, yn enwedig ar ôl yr aberth y maent wedi'i wneud yn ystod y pandemig i'n cadw'n ddiogel.
"Mae'n drueni nad oes gennym unrhyw sesiynau llawn ar ôl yr ochr hon i'r Nadolig i holi'r Gweinidog Iechyd am sut y aeth pethau mor wael yn Ysbyty'r Tywysog Charles. Yr wyf hefyd am wybod beth sy'n cael ei wneud i unioni'r sefyllfa.
"Wrth i ni nesáu at don newydd o coronafeirws, hoffwn gael sicrwydd bod yr ysbyty mewn gwell lle i gyfarfod â'r hyn sy'n dod. Byddaf yn cysylltu â'r Gweinidog Iechyd am atebion ar hyn."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb