Mae Aelod Senedd Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi'n "annerbyniol" bod criwiau ambiwlans wedi treulio cyfartaledd o dros 2,000 awr y mis yn aros y tu allan i ysbyty blaenllaw ers iddo agor.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dangos maint y ffordd y mae ambiwlansys wedi cael eu gadael yn lanw y tu allan i Ysbyty'r Grange ger Cwmbrân.
Yn ôl Peredur Owen Griffiths, sy'n AS Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru, mae angen i'r Llywodraeth Lafur gael gafael ar y sefyllfa cyn y bydd pwysau eithafol y gaeaf disgwyliedig yn ddiweddarach eleni.
Cafodd yr ysbyty ei agor ym mis Tachwedd 2020 chwe mis yn gynnar mewn ymateb i bandemig Covid-19 ond ni chafodd ei agor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Llafur tan fis Awst 2021.
Ers i'r ysbyty ddechrau derbyn cleifion ym mis Tachwedd 2020, mae ambiwlansys wedi treulio dros 2,000 o oriau yn aros y tu allan bob mis heblaw am dri.
Mewn un mis yn unig, collodd criwiau ambiwlans 3,155 o oriau.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar hyn o bryd yn newid y ffyrdd mae'n gweithredu ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ofalu am fwy o bobl yn y gymuned. Maen nhw hefyd yn edrych i ddatblygu'r ystod o sgiliau sydd gan eu staff i osgoi teithiau diangen i'r ysbyty.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths fod yr oedi yn wastraff o adnoddau hanfodol a'u bod yn niweidiol i iechyd a lles cleifion.
"Mae'r oedi yma i gleifion a chriwiau ambiwlans yn annerbyniol" meddai Peredur.
"Mae'r gwasanaeth ambiwlans dan bwysau anallu ysbytai fel Y Grange i dderbyn cleifion yn amserol.
"Gydag ambiwlansys yn cael eu gohurio yn rheolaidd y tu allan i'r Grange, mae hyn yn anochel yn achosi oedi hir mewn amseroedd ymateb i bobl sydd angen ambiwlansys mewn argyfyngau.
"Rwy'n teimlo dros y cleifion, y criwiau ambiwlans ac yn wir staff yr ysbyty sy'n derbyn cleifion sy'n aml wedi cael llond bol ac yn rhwystredig ar ôl cael eu gwneud i aros mewn ambiwlansys am symiau anystyriol o amser."
Ychwanegodd Peredur: "Mae'r argyfwng costau byw dyfnach yn debygol o gael effaith enfawr ar y GIG gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu gorfodi i dlodi a newyn y gaeaf hwn.
"Mae angen unioni methiannau'r system sy'n achosi ambiwlansys i gael eu dal y tu allan i'r Grange am oriau gael eu datrys yn gyflym.
"Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd Llafur i orchymyn adolygiad brys o'r gwastraff anferth yma o adnoddau trwy gydol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Mae angen iddi gael gafael ar y sefyllfa a nodi atebion fel bod ein gwasanaeth iechyd coleddu yn fwy parod ar gyfer yr onslaught sy'n mynd â'i ffordd y gaeaf hwn."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb