Peredur yn Cymeradwyo Prosiect Beicio Cymunedol Casnewydd

Newport_Bike_Project.jpg

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi ymweld â phrosiect beicio cymunedol sy'n ailgylchu beiciau ac yn eu rhoi i bobl sydd angen cludiant.

Ymwelodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru â Phrosiect Beicio Ffoaduriaid Casnewydd a redir gan Mark Seymour o'r Prosiect “Gap” yng Nghasnewydd. Mae'r prosiectau'n gweithio llawer gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n chwilio am brofiad a cyfeillgarwch.

Maent wrthi'n sefydlu canolfan feicio gymunedol arloesol yng nghanol Casnewydd, i ddarparu storfa feiciau diogel dan do 'talu wrth fynd' mewn uned siop wag. Maent hefyd am sefydlu amrywiaeth o fentrau beiciau cymunedol i hyrwyddo teithio llesol yng Nghasnewydd.

Dywedodd Peredur, a roddodd bedwar beic i’r prosiect yn ystod yr ymweliad: "Roedd yn wych gweld y gwaith sy'n cael ei wneud gan Brosiect Beicio Ffoaduriaid Casnewydd. Maent yn mynd â beiciau diangen ac yn rhoi bywyd newydd iddynt diolch i ymroddiad y gwirfoddolwyr.

"Mae'r beiciau hyn wedyn yn cael eu defnyddio i roi modd o deithio i bobl sy'n hanfodol i lawer deithio i’r gwaith ac o'r gwaith. Mae'r prosiect hefyd yn gwneud rhywbeth sy'n amhosibl rhoi pris arno – mae'n gwella lles meddyliol ac yn rhoi ymdeimlad gwych o gyflawniad i gyfranogwyr.

"Rwy'n dymuno'r gorau i'r Marc a'i wirfoddolwyr yn eu hymdrechion newydd ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â nhw yn y dyfodol yn eu safle newydd i weld sut mae eu cynlluniau'n dwyn ffrwyth." 

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-12-07 15:48:44 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd