Stopiwch anwybyddu Blaenau Gwent!
Ers i'r mynediad i ffordd Blaenau'r Cymoedd gael ei gau, mae Brynmawr a Beaufort wedi bod mewn "gridlock" bob dydd. Mae hyn wedi'i waethygu gan fod y ffordd o Gwm i Aberbeeg wedi'i gau ar yr un pryd.
All hyn ddim parhau! Mae'n gwneud bywydau pobol leol yn ddiflas ac mae cymudwyr yn cael eu dal mewn traffig am oriau.
Rhagwelir y bydd hyn yn digwydd am fisoedd, mae'r cynllun yn aruthrol dros y gyllideb ac yn helaeth dros yr amserlen... a does dim diwedd mewn golwg!
Rydym am i Lywodraeth Cymru neu Cyngor Blaenau Gwent gynnig ateb arall: mae Brynmawr a Beaufort mewn "gridlock" ac ni allwn fynd ymlaen fel hyn am fisoedd. Mae arnom angen gwell cynllunio o ran cau ffyrdd, ond yr hyn y mae arnom ei angen nawr yw iddynt wneud rhywbeth i leddfu'r tagfeydd ar adegau prysur.
Llofnodwch ein deiseb i wneud rhywbeth am hyn.