Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i ystyried y cymorth y maent yn ei roi i fusnesau lle mae rheoliadau ymbellhau cymdeithasol yn effeithio arnynt.
Wrth godi'r mater yn y Senedd gyda’r Prif Weinidog, defnyddiodd Peredur Owen Griffiths enghraifft busnes ioga yn ei ranbarth sydd ar fin methu gan mai dim ond traean o'i cwsmeriaid arferol y gall fynychu eu stiwdio.
Dywedodd Peredur, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru ar gyfer y blaid: “Mae llawer o fusnesau wedi ailagor yn dilyn y cyfyngiadau symud diwethaf. Maent wedi gwneud hynny gyda llai o gapasiti. Mae hyn yn ddieithriad yn golygu llai o incwm.
“Rwyf wedi cael sylwadau gan stiwdio ioga yn Nwyrain De Cymru sydd wedi ailagor yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond dim ond traean o'u cleientiaid arferol y gallent eu croesawu drwy'r drws.
“Mae eu gorbenion yn aros yr un fath. Cawsant fenthyciad “bounce-back” y llynedd, a chafwyd cefnogaeth gan y llywodraeth ym mis Mawrth eleni."
Ychwanegodd Peredur, heb unrhyw gymorth pellach, “eu bod ar fin cau, gyda dim ond £100 yn eu cyfrif busnes ddiwedd yr wythnos diwethaf.
“Mae mannau sy'n annog ffordd egnïol ac iach o fyw yn hanfodol ar gyfer lles ac iechyd corfforol a meddyliol da. Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi busnesau, fel y stiwdio ioga yn fy rhanbarth, i oroesi'r heriau economaidd a ddaw yn sgil ymbellhau cymdeithasol?”
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd yr Aelodau wedi gweld bod Gweinidog yr economi wedi cyhoeddi swm pellach o arian yn benodol i helpu'r busnesau hynny sy'n parhau naill ai i beidio â gallu gweithredu o gwbl, neu weithredu o dan yr amgylchiadau y mae Mr Griffiths newydd eu hamlinellu.
“A bydd mwy o help gan Lywodraeth Cymru tra bod yr argyfwng hwn yn parhau, ac er bod busnesau'n ceisio dychwelyd at allu masnachu yn y ffordd roedden nhw'n gallu unwaith.”
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb