Peredur OWEN GRIFFITHS
Fel mab i weinidog, roeddwn eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o Gymru erbyn imi fynd i'r ysgol uwchradd. O gael ein croesawu i gymuned wledig Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin, i wylio'r badau achub yn brwydro moroedd gwyllt Moelfre yn Sir Fôn, i weithio gyda milfeddyg ar hyd ffermydd Dyffryn Clwyd a Sir y Fflint – Cymru yw fy nghartref.
Nid yw hynny'n golygu nad wyf erioed wedi bod allan o Gymru. Astudiais ar gyfer gradd Meistr mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Sheffield, a gwyliais gyda diddordeb wrth i'r cyn-ditan diwydiant hon – y Ddinas Ddur – elwa o gynlluniau adfywio trefol ac economaidd i roi ei lle iddi fel arloesydd pwysig mewn bancio ac yswiriant mewn cyfnod ôl-ddiwydiannol. Tybed a ddylanwadodd hyn yn isymwybodol ar fy mhenderfyniad gyrfa cynnar - fel myfyriwr cefais swydd mewn banc, ac ar ôl cwblhau fy ngradd, cefais fy nyrchafu i fod yn Rheolwr Banc i Santander, a cael y cyfle i allu symud yn ôl i Gymru i gwblhau fy hyfforddiant.
Tra oeddwn gyda Santander, gweithiais mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Trefynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd.
Gan weithio mewn banc yng nghanol tref, cefais ymdeimlad gwirioneddol o’r gymuned leol. Ond yn fwy na hynny – sylweddolais pwysigrwydd canol y dref fel calon y gymuned. Trefi sy'n colli ei banciau neu wrth i’w siopau gau – mae'n cael effaith yn wirioneddol a negyddol ar y gymuned sydd o'i hamgylch. Mae'n fwy na cholli swyddi yn unig, y canolbwynt hwnnw i'r dref, y lle i fynd iddo ar y penwythnos, yr ymdeimlad o falchder. Ond mwy am hyn yn nes ymlaen.
Ychydig cyn i mi symud i Sheffield fe wnaethom ni – y cyhoedd yng Nghymru – bleidleisio dros ddatganoli a cyffyrddodd hyn rhywbeth ynof bryd hynny. Hyd at y pwynt hwnnw, roeddwn i'n gwybod fy mod yn Gymro – wrth gwrs fy mod i’n Gymro. Efallai mai dyna'r cyfan yr oeddwn yn ei wybod. Ond roedd gweld rhywbeth yn newid yn y wlad yn fy neffro i i’r posibilrwydd o fyd gwahanol lle'r oedd gan Gymru fwy o lais yn ei llywodraeth mewnol ei hun, ac efallai ei fod yn cychwyn syniad a fyddai yn y pen draw yn arwain i mi ystyried fy rôl yn hyn. Roedd gadael Cymru i fynd i Sheffield a chael y persbectif hwnnw o'r tu allan yn cynyddu fy malchder yn fy ngwlad a'm hawydd i symud yn ôl a chyfrannu i’w dyfodol.
Gan fy mod yn caru Cymru, mae'n debyg nad oedd yn syndod mai fy swydd nesaf yn dilyn Santander oedd i ymuno â Chymdeithas Adeiladu'r Principality, y mwyaf o gymdeithasau adeiladu Cymru. Yno, gweithiais ledled Cymru, yn y sector morgeisi, mewn rôl fel brocer a benthyciwr a rhoddodd hyn gipolwg pwysig iawn imi ar sector tai Cymru.
Ar ôl 13 mlynedd yn y Sector Ariannol, roedd yn bryd newid ac yn 2015 ymunais â Chymorth Cristnogol fel Cydlynydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Ewyllysiau Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn ymunais â Bwrdd Cyfarwyddwyr ‘Displaced People in Action’, elusen sy'n gweithio gyda ffoaduriaid. Wrth edrych yn ôl, rwy'n sylweddoli bod hyn wedi'i eni o'r angen i roi rhywbeth yn ôl, ond byddaf bob amser yn ddiolchgar am yr hyn a ddysgais o'r rolau hyn. Rwyf wedi cael profiadau arbennig gan bobl rwyf wedi cyfarfod â hwy yn rhai o rannau tlotaf y byd – sydd wedi esbonio i mi, er fod y byd yn eu gweld yn dlawd mewn termau ariannol, eu bod yn gyfoethog mewn ysbryd. Ledled y byd, mae creu swyddi'n datrys llawer o broblemau. Pan fydd gan bobl gysylltiad a’u cymuned, gyda rôl i'w chwarae a gwaith i'w wneud, mae o fudd i bawb o'u cwmpas.
Erbyn hyn rwy’n gweithio i Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru, ac mae wedi bod wych cael gweithio gyda grwpiau ffydd ledled Cymru. O helpu addoldai i wneud synnwyr o dirwedd reoleiddio newidiol 2020, i helpu gwahanol bwyllgorau i redeg yn esmwyth, i waith rhyng-ffydd – dwi wedi dod i adnabod llawer o gymunedau gwahanol yng Nghymru.
Byddai unrhyw un sy'n cwrdd â mi yn dweud fy mod yn "berson pobl" – a'r hyn sy'n fy ngyrru yw dod â gwahanol bobl at ei gilydd, gan eu helpu i ddod o hyd i dir cyffredin i gyflawni nod. Efallai na fyddwch yn synnu clywed fy mod hyd yn oed yn mwynhau cyfarfodydd pwyllgor!
Rhag ofn nad ydych yn fy nghredu, yn fy amser hamdden, rwyf hefyd yn Gadeirydd Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru, sydd wedi bod yn croesawu corau o bob rhan o'r byd yma i wlad y gân dros y 3 blynedd diwethaf. Eleni, wrth gwrs, bu'n rhaid i ni gymryd seibiant ac rwy'n colli'r byd corawl yn fawr iawn. Rwyf hefyd yn aelod o Côr CF1, côr cymysg safonol o Gaerdydd sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol. Mewn cyfnod cyn-Covid, byddem yn perfformio ac yn cystadlu yng Nghymru a thu hwnt; yn ennill yn rheolaidd mewn Eisteddfodau a mwy, ac yn 2014 enillon ni Gôr y Flwyddyn y BBC.
Mae cydweithio dros reswm cyffredin yn hynod o bwysig – a dyna yw canu mewn côr, addoli gyda'n gilydd, neu fynychu rali wleidyddol gyda'n gilydd o dan un aner – ac yn rhywbeth rwyf wedi'i golli'n fawr yn ystod y pandemig. Y nod nesaf i mi yw Etholiadau'r Senedd yn 2021, pan fyddaf yn gobeithio cael fy ethol i'ch cynrychioli. Mae'n fy ngwneud yn flin iawn gweld ein diwydiannau'n cael eu dinistrio ar draws y rhan fwyaf o dde Cymru. Os gallwn gael hyn yn iawn, os gallwn greu swyddi yn ein trefi, os gallwn ddod â'r canol trefi ffyniannus hynny, y canolfannau hynny o'r gymuned yn ôl, yna bydd cynifer o bethau eraill yn disgyn i’w lle.
Fel y dywedodd JFK unwaith "gofynnwch nid beth y gall eich gwlad ei wneud i chi, ond beth allwch chi ei wneud dros eich gwlad" – rwy'n credu bod angen i ni ddechrau nes at adref drwy ofyn beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, i'n gilydd, yn y cymunedau ledled Blaenau Gwent. Os ydym yn credu ynom ein hunain ac yn ein gilydd, nid oes terfyn ar yr hyn y gallwn ei gyflawni. Llywodraeth Plaid Cymru yw'r hyn sydd ei angen yn awr ar gyfer Cymru ac mae mor bwysig bod ymgeiswyr deinamig fel fi yn cael eich pleidlais ym mis Mai. Rwy'n credu bod gen i'r sgiliau, y profiad, a’r weledigaeth i'ch cynrychioli. Dyna pam yr wyf yn gofyn ichi roi eich cefnogaeth imi.
Peredur
"Os yw'n bwysig i chi, mae'n bwysig i mi"