Mae AS Plaid Cymru wedi codi trafferthion gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu gorfodi i delerau ac amodau llai gan awdurdod lleol a reolir gan Lafur.
Defnyddiodd Peredur Owen Griffiths AS Gwestiynau'r Prif Weinidog i dynnu sylw at y toriadau dinistriol y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn eu gwneud i ganolfannau dydd i oedolion anabl.
Yr wythnos diwethaf, holodd Peredur y Prif Weinidog am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar oedolion anabl a'u teuluoedd, gyda rhai ar ôl heb unrhyw ddarpariaeth. Yr wythnos hon, siaradodd Peredur am yr effaith y mae'r newidiadau'n ei chael ar weithwyr canolfannau dydd; y mae rhai ohonynt wedi cael eu hadleoli a'u bygwth â dileu swyddi oni bai eu bod yn derbyn telerau ac amodau llai.
Yn ystod FMQs, dywedodd Peredur: "O ran Plaid Cymru, mae gofal cymdeithasol yn waith medrus iawn, a dylid ei drin felly o ran cyflog ac amodau. Mae'n annheg ac yn anghyfiawn nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y parch y maent yn ei haeddu.
"Efallai eich bod yn cofio, yr wythnos diwethaf, i mi godi'r newidiadau i'r ddarpariaeth gofal dydd i oedolion anabl ym mwrdeistref sirol Caerffili, o safbwynt y teuluoedd y maent yn effeithio arnynt. Mae angen inni gofio hefyd fod tîm ymroddedig o weithwyr sydd hefyd wedi cael eu heffeithio gan gynlluniau'r cyngor Llafur.
"Fel y dywedodd un swyddog undeb mewn cyfarfod ddoe, 'Aeth y gweithwyr rheng flaen hyn y tu hwnt i'r alwad am ddyletswydd i weithio drwy gydol pandemig COVID, ac maent bellach yn cael eu diolch i adleoli a'r bygythiad o gael eu diswyddo os nad ydynt yn derbyn telerau ac amodau llai'.
"Brif Weinidog, sut y gallwn ddisgwyl i bobl gael eu denu i'r sector gofal cymdeithasol, ac, yr un mor bwysig, sut y disgwylir i bobl sydd â phrofiad aros yn y sector, lle maent yn cael eu trin mor wael?"
Mewn ymateb, dywedodd Mark Drakeford: "Wel, Lywydd, rydw i mewn sefyllfa i ymateb i'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud. Wrth i mi geisio egluro'n dyner iddo'r wythnos diwethaf, cwestiynau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd yn y sefyllfa orau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb