Wrth ymateb i'r newyddion bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn mynd i "ail-werthuso" eu cynlluniau ar gyfer darpariaeth canolfannau gofal dyddiol i oedolion anabl, dywedodd Peredur Owen Griffiths a Delyth Jewell o Blaid Cymru mewn datganiad ar y cyd: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu i oedolion anabl, eu teuluoedd a'r staff ymroddedig yn y canolfannau gofal dyddiol.
"Mae'r cyngor wedi cydnabod fod eu hymgynghoriad ar y gwasanaeth hanfodol hwn yn annigonol ac wedi methu ag ystyried barn y bobl yr effeithiwyd arnynt fwyaf pan ddiddymwyd gwasanaethau.
"Os cynhelir ymgynghoriad priodol a bod gwir ystyriaeth o deimladau o fewn y bwrdeistref sirol yn cael ei fesur, yna rydym yn hyderus na fydd gan y cyngor ddewis ond rhoi'r gorau i'w cynlluniau a dod o hyd i ffordd o weithio gyda theuluoedd i gynyddu'r ddarpariaeth ar yr amod ei fod yn ddiogel o dan gyfyngiadau coronafeirws.
"Rydym yn gwybod na ellir ymddiried yn y cyngor i ddod i'r penderfyniad cywir o’u gwirfodd o ran defnyddwyr canolfannau gofal dyddiol - fellly byddwn ni ym Mhlaid Cymru ar lefelau'r Senedd, y cyngor a llawr gwlad yn cadw llygad barcud ar y mater hwn ac yn parhau i weithio gyda theuluoedd ac undebau llafur.
"Ni ellir bod yn hunanfodlon ar y mater hwn; yn ystod y misoedd nesaf neu ar ôl etholiadau lleol y flwyddyn nesaf pan fydd Llafur o bosib yn bwriadu dadorchuddio eu cynlluniau mwy amhoblogaidd. Bydd yr ymgyrch yn parhau."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb