Mae Aelod Senedd Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i droi eu sylw at Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn dilyn marwolaeth dyn yng Nglyn Ebwy.
Cododd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, y dadlau a fu ynghylch Gwesty'r Parc yng Nglyn Ebwy yn ystod Cwestiynau Busnes yn y Senedd.
Mae'r gwesty bellach yn cael ei ddefnyddio fel llety dros dro ac yn gynharach y mis hwn cafwyd hyd i ddyn 41 oed yn anymwybodol yno. Cafodd dyn arall ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn hynny.
Yn ôl trigolion lleol, sydd wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ers y digwyddiad, dyma'r drydedd farwolaeth yn y gwesty.
Dywedodd Mr Owen Griffiths: "Dros yr wythnosau diwethaf, mae pryderon mawr wedi eu mynegi am ddiogelwch gwesty yng Nglyn Ebwy sy'n gweithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth.
"Cafwyd hyd i ddyn yn farw yng Ngwesty'r Parc yn Waunlwyd, ac fe gafodd un arall ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae trigolion lleol a oedd yn rhan o gyfarfod cyhoeddus dilynol i drafod eu hofnau am ddiogelwch y gwesty yn dweud mai dyma'r drydedd farwolaeth a adroddwyd yn y gwesty.
"Mae sail i'w hofnau nhw, gan fy mod wedi cael gwybod bod dau awdurdod lleol, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, wedi tynnu eu cleientiaid allan o'r cyfleuster bellach."
Ychwanegodd Peredur: "O fy ngwaith fel Aelod Senedd ers y llynedd, rwy'n ymwybodol bod methiannau ynghylch rheoleiddio HMO wedi arwain at ganolbwyntio cyfleusterau o'r fath, ac o leiaf un person bregus yn cael ei gartrefu mewn llety anaddas gyda chanlyniadau trasig.
"Ydy hi'n bryd ailedrych ar y rheoleiddio a'r arweiniad? Oherwydd mae'n ymddangos bod y status quo yn methu cymunedau a'r cleientiaid bregus yn HMOs. A allwn felly gael datganiad gan y Llywodraeth ar frys ar hyn os gwelwch yn dda?"
Mewn ateb, dywedodd Lesley Griffiths AS ei fod yn fater i awdurdodau lleol.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb