Wrth ymateb i'r newyddion bod HSBC am gau dwy gangen yn ei ranbarth, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru i Blaid Cymru: "Mae'n siomedig iawn clywed bod HSBC yn bwriadu cau eu safle yn Y Fenni, Coed Duon a Phont-y-pŵl y flwyddyn nesaf.
"Bydd y penderfyniad hwn - a wnaed gan gwmni a wnaeth ar ôl elw treth o fwy na $3 biliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf - yn gadael llawer o gwsmeriaid bregus a phobl oedrannus heb gyfleusterau.
"Dydy pawb ddim yn gyfarwydd na chyfforddus efo bancio dros y we ac nid pawb sydd ar-lein. Mae'r rhaniad digidol yng Nghymru yn broblem wirioneddol, yn enwedig pan fo gwasanaethau hanfodol fel bancio yn mynd ar-lein.
"Bydd hyn yn gorfodi rhai cwsmeriaid i deithio ymhellach i ffwrdd, ar fwy o gost i'w hunain, i wneud y pethau y gallen nhw unwaith eu gwneud o fewn eu cymuned eu hunain.
"Mae'r elw wedi cael ei roi uwchlaw pobl gan HSBC ac mae hynny'n gam yn ôl."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb