Mae AS Plaid Cymru wedi croesawu'r newyddion bod swyddfa bost yng Nghwm Rhymni yn ailagor ar ôl cau dros dair blynedd.
Bydd cangen Tredegar Newydd yn ailagor ddydd Mercher 13 Hydref am 1pm yn yr un safle ond o dan bostfeistr newydd. Bydd yn cynnig yr un gwasanaethau a gynhaliodd cyn iddo gau dros dro ym mis Mehefin 2018.
Cyhoeddwyd y newyddion mewn llythyr gan Swyddfa'r Post at gynrychiolwyr lleol.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru: "Mae'n newyddion gwych y bydd Tredegar Newydd yn cael gwasanaethau swyddfa bost lleol yn ôl ar ôl amser hir heb.
"Mae'n siŵr y bydd yr ailagor hwn yn rhoi calon i gymunedau eraill - fel Cefn Golau - sydd wedi colli gwasanaethau swyddfa'r post y gallant ddychwelyd, hyd yn oed ar ôl bwlch hir.
"Mae Swyddfeydd Post yn rhan hanfodol o gymunedau ac yn darparu achubiaeth i lawer. Dylem eu defnyddio lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithredu.
"Rwy'n siŵr y bydd pobl Tredegar Newydd yn mynd y tu ôl i'r gangen leol pan fydd yn ailagor fis nesaf."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb