Mae AS Plaid Cymru wedi codi yn y Senedd y mater sy'n ymwneud â diogelwch cleifion a morâl staff o fewn y bwrdd iechyd.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, fod sylw yn y wasg ar adroddiad Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ynglyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn "ddamniol".
Canfu'r adroddiad fod staff yn 'ofni mynd i'r gwaith' oherwydd eu pryder ynghylch diogelwch cleifion a'r canlyniadau y gallai eu gael ar eu cofrestriad gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar ôl i'r bwrdd iechyd agor ysbyty Grange ger Cwmbrân y llynedd.
Yn ystod cwestiwn amserol i'r Gweinidog Iechyd, dywedodd Peredur: "Mae sylw yn y wasg am adroddiad Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ynglyn a profiadau staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ddamniol. Mae’n annerbyniol bod meddygon ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant – a dyfynnaf - yn "ofni mynd i’r gwaith".
"Aeth Andrew Goddard, llywydd RCP, mor bell â dweud: "Yn ystod ein hymweliad rhithwir dywedodd rhai hyfforddeion wrthym fod ofn iddynt fynd i'r gwaith, rhag ofn iddynt golli eu rhif GMC [y Cyngor Meddygol Cyffredinol].
"Yn fy wyth mlynedd yng Ngholeg Brenhinol y Ffisigwyr rwyf wedi ymweld â channoedd o wahanol ysbytai - ac nid oeddwn erioed wedi clywed hynny o'r blaen."
Ychwanegodd Peredur: "Y rheswm pam fod staff ofni colli eu rhif GMC yw pryderon difrifol ynghylch diogelwch cleifion o dan y model ysbyty newydd sy'n gweld y gweithlu a chleifion yn symud rhwng nifer o safleoedd gan nad oes digon o adnoddau ar eu cyfer.
"Bydd llawer o'm hetholwyr yn poeni am y newyddion hyn felly rwyf am glywed gennych heddiw pa gamau yr ydych wedi'u cymryd i wella diogelwch cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? A allwch roi’r sicrwydd sydd ei angen ar boblyn fy rhanbarth?
"At hynny, sut ydych chi'n mynd i'r afael â phryderon dilys staff sy'n gweithio'n galed sy'n haeddu gwell ac na ddylent fod yn ofni mynd i'r gwaith?"
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb