Mae'r Frwydr dros Brydau Ysgol Am Ddim i Bawb yn Parhau – Peredur

Pred_profile_2.jpg

Mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi beirniadu'r Llywodraeth Lafur wedi iddyn nhw ymuno â’r Torïaid i bleidleisio yn erbyn cynnig am brydau ysgol am ddim i bawb.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, ei fod yn siomedig iawn gyda “tag team” Llafur a'r Torïaid pan wrthodwyd cynnig Plaid Cymru oherwydd byddai prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn ein hysgolion lleol yn cael budd enfawr i'r bobl y mae'n eu cynrychioli.

Yn ôl ym mis Hydref y llynedd, amcangyfrifodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fod dros 70,000 o'r 129,000 o blant oedran ysgol sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Y rheswm am hyn fel arfer yw bod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n eu cymryd dros y trothwy cymhwysedd, ond sydd dal i adael y teulu mewn tlodi.

Nos Fercher cyflwynodd Plaid Cymru ddadl i'r Senedd a oedd yn chwilio am gefnogaeth drawsbleidiol i weithredu polisi o brydau ysgol am ddim cyffredinol tebyg i'r hyn sydd eisoes wedi'i fabwysiadu yn y Ffindir a Sweden. Cafodd cynnig Plaid Cymru ei drechu wrth i AS’au LLafur a'r blaid Dorïaidd ddod at ei gilydd i bleidleisio yn ei herbyn.

Dywedodd Peredur: "Yng Nghymru, mae un o bob tri phlentyn mewn tlodi ac mae hyn yn annerbyniol. Yn ystod ein dadl, clywsom am y nifer o blant sy'n colli allan ar bryd maethlon tra yn yr ysgol oherwydd trothwy ariannol mympwyol.

"Clywsom hefyd nad yw'r rhai sy'n derbyn cymorth o dan y system bresennol yn aml yn cael digon o arian i’w hatal rhag bod yn llwglyd drwy gydol y dydd.

"Mae'n rhaid i ni wneud yn well na hyn. Byddai ein polisi ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob plentyn a addysgir gan y wladwriaeth wedi bod yn hwb mawr i leihau effeithiau dinistriol tlodi. Roedd yn siomedig na chawsom y gefnogaeth o bob rhan o'r Senedd i’r plant mewn tlodi sydd mewn cymaint o angen.

"Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Lafur Cymru ar y mater hwn nes eu bod yn gwneud yr hyn sy’n iawn ac yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd yn tra yn yr ysgol."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2021-07-16 13:48:27 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd