Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gyflymu cynlluniau i roi codiad cyflog i staff gofal cymdeithasol.
Galwodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, ar y Prif Weinidog i gyflwyno cynlluniau ar gyfer cyflog tecach i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae'r llywodraeth wedi dweud y byddan nhw'n sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn "mwynhau cyflog tecach erbyn 2024". Dywedodd Peredur wrth y llywodraeth ei fod am i'r codiad cyflog ddod i mewn yn gynharach yng ngoleuni'r gost gynyddol o fyw.
Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd Peredur ei fod ef a'i gyd-Aelod o'r Senedd, Delyth Jewell, wedi cyfarfod yn ddiweddar ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Phillipa Marsden a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Shane Cook, mewn cysylltiad â'r gostyngiad yn y ddarpariaeth canolfannau dydd i oedolion anabl.
Dywedodd Peredur: "Yn ystod y cyfarfod hwnnw, pwysleisiwyd ganddynt fod recriwtio staff gofal cymdeithasol yn anodd ac y bydd yn parhau i fod felly nes bod cydraddoldeb rhwng eu cyflogau a staff y GIG.
"Allwch chi gyflymu eich cynlluniau ar gyfer tâl tecach i weithwyr gofal cymdeithasol yng ngoleuni cyllidebau cartrefi'n cael eu gwasgu gyda phrisiau tanwydd gaeaf yn cynyddu?”
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog y bydd ei lywodraeth yn aros am gyngor y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol cyn iddyn nhw "gyflwyno cyflog byw go iawn" i staff yn y sector.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb