Mae Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd wedi croesawu'r diwedd i ymgyrch gyrwyr bysiau a oedd ar streic yng Ngwent ar ôl i'w cyflogwyr dderbyn eu galwad am godiad cyflog.
Amcangyfrifir bod 200 o yrwyr yn depos Stagecoach yng Nghwmbrân, Brynmawr a'r Coed Duon wedi cerdded allan 17 diwrnod yn ôl mewn ymgais i gynyddu eu cyflog o £9.50 i £10.50 yr awr.
"Mae hyn yn newyddion gwych," meddai Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru. "Roedd y gyrwyr ond yn gofyn am godiad cyflog cymedrol. Fe'u gorfodwyd i gymryd camau streic oherwydd rheolwyr cwmni ystyfnig a oedd ond yn rhy hapus i dalu'r hyn yr oedd gyrwyr yng Nghymru yn gofyn amdano a mwy i yrwyr dros y ffin ym Mryste.
"Pe bai rheolwyr Stagecoach wedi cwrdd â cheisiadau synhwyrol y gweithlu yn y lle cyntaf yna byddai llawer o ofid a chaledi wedi'u hatal ar gyfer staff a theithwyr sydd wedi gorfod chwilio am drafnidiaeth amgen am fwy na phythefnos.
"Rwy'n gobeithio y bydd gwersi bellach yn cael eu dysgu gan uwch reolwyr Stagecoach a'u bod yn dechrau trwsio rhywfaint o'r niwed y maent wedi'i wneud i'r berthynas â'u gweithlu."
Dywedodd Delyth Jewell AS, sydd hefyd yn cynrychioli Dwyrain De Cymru: "Mae hon wedi bod yn anghydfod hir ond rwy'n falch iawn bod gyrwyr wedi cael yr hyn yr oeddent ei eisiau o'r diwedd. Roedd eu gofynion yn rhesymol er gwaethaf yr hyn a honnodd uwch reolwyr Stagecoach.
"Cafodd llawer o etholwyr - yn enwedig y rhai heb eu cludiant eu hunain - eu llesteirio yn ystod y cyfnod diwydiannol o'r 17 diwrnod diwethaf felly rwy'n falch iawn drostynt yn ogystal a dros y gyrwyr bysiau bod yr anghydfod hwn wedi dod i ben o'r diwedd.
"Mae'n fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin, pŵer pobl ac undod undebau llafur."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb