Cefnogwch ein Gweithwyr Hunan-Gyflogedig
Mae'r argyfwng Covid-19 yn achosi pryderon iechyd ac ariannol i bawb yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn croesawu'r camau sydd wedi eu cymryd eisoes gan y llywodraeth er mwyn cefnogi pobl yn ystod yr argyfwng. Ond, mae sawl person yn parhau i fod heb y cymorth sydd angen arnynt er mwyn eu helpu trwy'r cyfnod hynod o annodd yma.
Mae gweithwyr hunan-gyflogedig yn benodol heb dderbyn y cadarnhad angenrheidiol gan y llywodraeth na fyddant ar eu colled yn sylweddol os wnant y peth cywir ac aros adre.
Galwn ar lywodraeth y DG i gyhoeddi pecyn cymorth i weithwyr hunangyflogedig yn syth, gan gynnwys:
- Rhoi union yr un cymorth i weithwyr hunangyflogedig, gweithwyr llawrydd, unig-fasnachwyr a gweithwyr yn yr economi gig ac sydd ar gael i weithwyr cyflogedig.
- Rhaid gwarantu hyd at £2,500 y mis i weithwyr hunangyflogedig bydd yn debygol o golli cwsmeriaid neu fethu gweithio.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?