Dywedodd AS Plaid Cymru nad yw'n "ddigon da" disgwyl i ofalwyr di-dâl godi'r slac yn y system ofal yng Nghymru.
Roedd Peredur Owen Griffiths yn siarad ar ôl i newyddion ddod i'r amlwg bod gofalwyr di-dâl yng Ngwent wedi cael gwybod bod cymorth yn cael ei leihau i ofalu am bobl fregus.
Galwodd Carers UK y sefyllfa - a achoswyd yn ôl pob tebyg gan ddiffyg capasiti mewn gofal cymdeithasol - yn "bryderus iawn".
"Mae hyn yn newyddion pryderus gan y bydd yn rhoi baich ychwanegol, amhenodol ar ofalwyr di-dâl," meddai Peredur.
"Mae llawer o ofalwyr di-dâl eisoes wedi blino’n llwyr heb i waith ychwanegol gael ei orfodi arnynt. Byddaf yn ceisio codi'r mater hwn cyn gynted ag y bydd y Senedd yn dychwelyd yn dilyn toriad yr haf."
Ychwanegodd: "Mae hyn yn tanlinellu'r angen i uno iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae hwn yn un o brif bolisiau Plaid Cymru gan y byddai'n creu gwasanaeth di-dor, yn rhad ac am ddim pan fo’r angen.
"Nid yw'r system bresennol yn gweithio a dim ond ychydig sy'n cael ei wneud i ddatrys y problemau niferus o fewn y system, gan adael gofalwyr di-dâl a'r bobl y mae'r bobl sy'n gofalu amdanynt yn dwyn baich y gwahanol broblemau. Nid yw hyn yn ddigon da."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb