Peredur yn Beirniadu Prif Weinidog y DU am Sylwadau 'Gwag' am y Pyllau Glo

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi beirniadu Prif Weinidog y DU am wneud hwyl am gau pyllau glo yn y 1980au.

Dywedodd AS Dwyrain De Cymru bod sylwadau Boris Johnson am y polisi cau pyllau glo o dan y Prif Weinidog Torïaidd Margaret Thatcher yn "hynod o sarhaus " i'r bobl a'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn fawr yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Johnson, a oedd yn chwerthin wrth wneud y sylwadau: "Diolch i Margaret Thatcher, a gaeodd gymaint o lofeydd ar draws y wlad, cawsom ddechrau cynnar ac rydym bellach yn symud yn gyflym oddi wrth lo yn gyfan gwbwl."

Dywedodd Peredur, sy'n cynrychioli etholaethau sydd â threftadaeth lofaol ddwfn fel Blaenau Gwent, Caerffili ac Islwyn: "Mae'r sylwadau gwag a niwlog hyn yn sarhaus iawn i'r miloedd o bobl rwy'n eu cynrychioli a effeithiwyd arnynt gan streic lofaol 1984-85 a'r canlyniadau a ddilynodd wedi hynny.

"Cafodd cymunedau rwy'n eu cynrychioli eu chwalu a taflwyd teuluoedd i mewn i dlodi oherwydd bod Llywodraeth Dorïaidd wedi datgan rhyfel ar y glowyr. Efallai mai'r peth mwyaf anfaddeuol yw nad oedd cynllun, na hyd yn oed bwriad, i ddarparu cyflogaeth i gymunedau ar ôl cau'r pyllau. Crëwyd llawer o'r cymunedau hyn yn unswydd i ddarparu llety i weithwyr felly roedd y canlyniadau'n drychinebus, yn enwedig ym Mlaenau'r Cymoedd gan mai yr ardal hon sydd bellaf o ardaloedd trefol a chyflogaeth amgen.

"Gellir gweld gwaddol y polisi dideimlad hwn heddiw, gyda thlodi,  diweithdra b diffyg symudedd cymdeithasol yn cael ei drosglwyddo drwy'r cenedlaethau mewn llawer o  achosion."

Ychwanegodd Peredur: "Pe bawn i'n meddwl bod gan Brif Weinidog y DU gydwybod byddwn yn ychwanegu at y galwadau am ymddiheuriad ond dydw i ddim yn credu bod ganddo un. Mae'r sylwadau hyn yn brawf pellach, os oedd angen mwy, ei fod yn gwbl ddi-gysylltiad â phobl bob dydd.

"Hoffwn i Andrew RT Davies, arweinydd y Torïaid yng Nghymru, fyfyrio ar y sylwadau hyn a sydd wedi achosi cymaint o ddifrod i'r bobl y mae'n eu cynrychioli mewn ardaloedd fel y Rhondda, Pontypridd a Chwm Cynon. Dylai Andrew RT Davies ymuno â mi yn awr i gondemnio geiriau'r Prif Weinidog a galwaf arno i wneud hynny ar fyrder.

"Mae Cymru'n haeddu cymaint gwell na hyn."


Dangos 1 ymateb

  • Peredur Owen Griffiths
    published this page in Newyddion 2021-08-06 11:25:28 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd