Gwirfoddolwyr yw Asgwrn Cefn Cymunedau Cymru - Peredur

Pred_Headshot_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi diolch i wirfoddolwyr am eu holl waith caled a'u hymroddiad wrth i ddiwedd Wythnos Gwirfoddolwyr ddod i ben.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, mai gwirfoddolwyr oedd "asgwrn cefn cymunedau" ledled ei ranbarth a’u cyfraniadau drwy gydol y flwyddyn.

Cynhelir Wythnos Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn, ac mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cael ei chefnogi a'i dathlu gan sefydliadau ar lawr gwlad ac mae'n rhoi cyfle i bob gwirfoddolwr gael eu cydnabod.

Dywedodd Peredur: "Mae gwirfoddolwyr mor hanfodol i'w cymunedau felly mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cymryd peth amser i ganmol y rôl y maent yn eu chwarae.

"Ers fy ethol y llynedd, rwyf wedi ymweld â nifer o grwpiau a chlybiau sy'n cael eu rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Drwy roi eu hamser am ddim maent yn rhoi mwynhad i'r gymuned ac yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a hyrwyddo iechyd meddwl da.

"Tanlinellwyd gwerth gwirfoddolwyr yn ystod y pandemig pan oedd llawer yn ralio o gwmpas y rhai mwyaf agored i niwed i sicrhau bod eu siopa bwyd yn cael eu wneud a bod eu presgripsiynau'n cael eu casglu.

"Fe wnaethon nhw gamu i fyny i ddarparu gwasanaeth hanfodol pan nad oedd llawer o ddewis arall ac ni ddylid byth anghofio hynny.

"Gwirfoddolwyr ledled Cymru yw asgwrn cefn ein cymunedau ac maent yn ysbrydoliaeth – a boed hynny'n parhau."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2022-06-07 16:38:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd