Mae'r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, wedi galw adroddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol i Gymru yn "hwb hollbwysig" i'r ymgyrch annibyniaeth.
Mae annibyniaeth i Gymru yn opsiwn cyfansoddiadol "hyfyw" yn y dyfodol i Gymru, yn ol casgliadau adroddiad interim Comisiwn Annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Sefydlwyd y Comisiwn, a gadeiriwyd gan gyn-Archesgob Cymru Rowan Williams, a'r Athro Laura McAllister, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, gan y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021 i ystyried a datblygu opsiynau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol sylfaenol y Deyrnas Unedig ochr yn ochr â phrif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru.
Daeth ei adroddiad interim, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 7fed Rhagfyr 2022), i'r casgliad nad oedd "y status quo" neu "ddadwneud datganoli" yn sail "ddibynadwy" nac yn "gynaliadwy" ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Peredur: "Mae'r adroddiad hwn yn galonogol i unrhyw un sy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru. Mae'n dangos nad yw annibyniaeth, fel fyddai unoliaethwyr yn eich dwyn i gredu, yn freuddwyd gwrach.
"Mae'n hwb hollbwysig i'r achos oherwydd mae'n opsiwn ymarferol yng ngeiriau'r comisiwn annibynnol hwn.
"Nid newyddion da i gefnogwyr annibyniaeth yn unig yw hyn ond mae hefyd yn newyddion da i unrhyw un sy'n chwilfrydig neu'n syml yn cymryd diddordeb yn y ddadl hon.
"Mae'r adroddiad yn darparu rhywfaint o wybodaeth a thystiolaeth y mae mawr ei hangen er mwyn hyrwyddo'r ddadl ac ysgogi sgwrs am sut y gallai Cymru annibynnol edrych gan ei fod rwan yn opsiwn ymarferol."
Am fwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: https://llyw.cymru/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-interim
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb