Mae casglwyr sbwriel Plaid Cymru yn rhoi eu geiriau ar waith
Aeth Plaid Cymru Blaenau Gwent allan i strydoedd Glynebwy i roi eu geiriau ar waith a mynd i'r afael â rhywfaint o'r sbwriel sydd wedi bod yn pentyrru ar hyd ochrau ffyrdd ers ailagor siopau bwyd cyflym lleol. Mae Peredur Owen-Griffiths, ymgeisydd Plaid Cymru Blaenau Gwent yn etholiadau 2021 y Senedd, wedi ei alw'n "felltith" ar gymoedd Blaenau Gwent.
Pan lansiodd Mr Owen-Griffiths ei ymgyrch yn erbyn taflu sbwriel ar 4ydd Mehefin, nid oedd wedi gwerthfawrogi faint o bobl oedd yn teimlo'n rhwystredig gyda'r sefyllfa. Yn ystod y cyfnod cloi, roedd llawer o bobl leol wedi mynd ati i glirio'r strydoedd. Ond pan agorodd y “Drive Thru’s” lleol ar 2ail Mehefin, ar ôl misoedd o gloi, ni fu'n hir cyn i'r sbwriel ddechrau ymddangos ar hyd ochrau'r ffyrdd eto.
Dywedodd Peredur Owen-Griffiths, ymgeisydd Plaid Cymru dros Flaenau Gwent yn etholiadau'r Senedd 2021:
“Mae'r ateb i'r broblem yn syml - dylai pobl gael gwared ar eu sbwriel mewn ffordd synhwyrol. Ond mae’n amlwg nad un neu ddau o bobl sydd yn taflu sbwriel, ac nid yw'n ymddangos bod y rhwystrau presennol o ddirwyo yn gweithio, mae'n rhaid gwneud rhywbeth arall.
“Fe ddechreuon ni gyda'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd, ond yn y cyfamser, roedd arnom ni eisiau gwneud rhywbeth ymarferol. Mae rhai pobl wych ar gael yn barod yn casglu sbwriel yn rheolaidd. Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan Brynmawr Litter Heroes a Ebbw Vale Litter Heroes, ac rwy'n clywed y gallai fod grŵp tebyg yn cychwyn yn Nhredegar. Ond yn y cyfamser mae'r sbwriel yn dal i ddod.
“Pan siaradais â'm hetholwyr, y syniad a oedd wedi taro deuddeg oedd i ‘Drive Thru’s’, argraffu rhifau cofrestru ceir ar becynnau. Mae'r dechnoleg eisoes yn bodoli mewn meysydd parcio, felly pam ddim ar becynnau bwyd cyflym? Unrhyw beth i atal melltith y taflwyr sbwriel yn ein dyffrynnoedd hardd.”
Mae deiseb wreiddiol Mr Owen-Griffiths wedi ei llofnodi gan dros 3,370 o bobl. Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn orfodol i “Drive Thru’s” argraffu platiau rhifau ceir ar bob pecyn fel y gellir olrhain sbwriel. Ers hynny, mae pobl mewn rhannau eraill o Gymru wedi dechrau ymgyrchoedd tebyg, felly mae Mr Owen-Griffiths yn gobeithio y bydd yn cael dylanwad, a bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn a gwneud rhywbeth.
Galwodd Gemma Marshall, sy'n breswylydd o Lynebwy, y sefyllfa yn “wirioneddol ddigalon” i weld y sbwriel yn ailymddangos. Roedd yn falch iawn pan benderfynodd Plaid Cymru Blaenau Gwent roi cynnig ar gasglu sbwriel, tra’n dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, yn ei thref ac roedd yn awyddus i gymryd rhan yn y cynllun peilot.
“Fe benderfynon ni ddechrau'n fach, i weld sut byddai'n gweithio. Cawsom ein calonogi'n fawr gan nifer y bobl leol a oedd yn diolch i ni tra'r oeddem ni'n casglu sbwriel, ond roedd yn dorcalonnus iawn gweld cynifer o fagiau a allodd dim ond 5 ohonom lenwi mewn 2 awr. Yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod casglwyr sbwriel o Lynebwy wedi bod yn gweithio'n galed drwy y cyfnod cloi. Rydym yn gobeithio ei fod yn rhywbeth y gallwn ei wneud eto gyda mwy o bobl yn fuan. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf yw'r ymwybyddiaeth o'r broblem ac rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn gollwng eu sbwriel ar ein strydoedd, yn ein parciau ac yn ein gerddi.”